Tudalen:Yn y Wlad.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Drws y Nant wrth ei henw, lle yr oeddym i gychwyn yn uwch i'r mynyddoedd, teimlais yn llawen iawn fy mod wedi dod. Ac yn awr, pan y mae gwyntoedd hiraethlawn Tachwedd ar eu ffordd at fy annedd, yr wyf yn teimlo mor ffodus oeddwn, oherwydd y mae atgofion pen y bryniau yn aros yn fy meddwl a iechyd pen y bryniau yn aros yn fy ngwaed.

Yr oedd yr awel yn adfywiol ac yn lleddf. Anadlai'n ysgafn o'r de-orllewin.. Yr awel hon yw prif gymhwynasydd daear Cymru. Oni bai am ei hymweliadau cynnes tyner hi, buasai ein gwlad dan eira bythol fel canol Labrador yr ochr arall i'r Werydd ar ein cyfer. Crwydra o'r môr dros ein brynjau, ac y mae ei hymweliad yn fwy bendithiol nag ymweliad Olwen gynt, oherwydd gedy laswellt gwyrdd dros yr holl wlad, o'r glyn mwyaf cysgodol i goryn y mynydd moel amlycaf. Rhydd glog o darth a niwl teneu dros y bronnydd, na allai yr un ddewines roi eu gwell, a cheidw y rhai hynny wres a bywyd yr haul. A'r diwrnod hwnnw, wrth anadlu ar ein hwynebau, yr oedd ei chyffyrddiad fel y gwin. Deffroai holl egni corff a meddwl, gwnai i ni weled fod pethau amhosibl yn bosibl a phethau anodd yn hawdd.

Yr oedd lliwiau'r mynyddoedd yn brydferth iawn, yn bob cyfuniad o las a gwyrdd. Ond edrych tua'r de gwelem drumau gleision Cader Idris. Codent yn rhes hir, yn uchel uwchlaw'r dyffryn. Yn y rhes falch yr oedd y Gader ei hun yn alwg yn y canol. Eu lliwiau oedd hynotaf. Rhwng y rhannau oedd dan wên haul a'r rhannau oedd yn y cysgodion, yr oedd pob arlliw a gwawr o las y gellid dychmygu am dano. A than y mynyddoedd, lle chwareuai goleuni'r haul ar gaeau o adlodd ac ar gaeau o