Tudalen:Yn y Wlad.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sypiau yd parod i'r ydlan, yr oedd yno liwiau o borffor ac aur na all y llys gwychaf ddangos eu tebig.

Ac yr oedd yno fiwsig hefyd. Yr oedd afon Wnion, yn afiaeth ieuanc ei morwyndod, yn gwmni diddan inni trwy'r dydd. Yr oedd ei dŵr yn dryloyw ar ei graean glân, a'r mafon duon yn gynhaeaf prydferth yn crogi dros ymyl ei llif rhedegog. Dawnsiai, gwenai, llamai'r afonig; yr oedd yr heulwen ar ei dwfr, pan yn wyn wrth neidio o garreg i garreg, yn gwneud iddi ymddangos fel pe'n codi ei llaw, ac yn galw arnom ar ei hol. Yr oedd bywyd yn ei sŵn hefyd, yn ei murmur mwyn ac yn ei sisial dedwydd. Nid y hi'n unig oedd yn canu; yr oedd aberoedd eraill yn uno mewn un gydgan fawr, er mai'n gymysglyd, ond eto mewn cydgordiad perffaith, y clywem ni hwynt. Yr oedd yr Wnion welem ni fel genethig hawddgar yn prysuro i ganu soprano yn y côr glywem yn is i lawr, lle clywid "trymru ac islais," chwedl un o feirdd Arfon, y rhaeadr islaw.

I fyny gyda glan yr afon yr oeddym i fynd. O bobtu inni yr oedd mynyddoedd uchel. Ar y chwith yr oedd y Foel Ddu, yn codi i fyny dros bymtheg cant o droedfeddi, a thu ol iddi yr oedd y Rhobell Fawr, yn codi'n agos i wyth gant o droedfeddi yn uwch wedyn. Ar y dde yr oedd trum ardderchog yr Aran, a thrwy gymoedd rhaeadrog caem gipolygon ar Aran Fawddwy ac Aran Benllyn, y naill yn 2,970 a'r llall yn 2,901 troedfedd uwchlaw wyneb y môr. Y gyntaf yw'r uchaf yng Nghymru y tu allan i Eryri. Hiraethem am gopa'r llall, lle y mae llyn eang o ddwfr pur, haf a gaeaf; yr oedd ei phen fel pe yn ein hymyl, er fod yn rhaid dringo dros ddwy fil o droedfeddi iddo o'r fan