Tudalen:Yn y Wlad.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y safem ni. Ond y mae sibrwd afon Wnion yn ein galw'n ol at y mafon duon.

Y mae'r awel yn codi perarogl o'r llysiau, fel yr ydym ninnau'n codi mafon oddiar y mieri. Y mae'n arogl llawn a goludog, ac yn hyfrytach na'r mwsg. Chwiliasom o ba le yr oedd yr awel yn ei gael. Denai o'r mintys gwylltion,[1] llysiau'r mel, [2] chwerwlys yr eithin,[3] a gwynwydd[4] aroglus. Medraf gofio arogl per y pedwar hyn, er nad oes gennym enwau ar aroglau fel sydd gennym ar liwiau; ac wrth geisio ail godi'r olygfa honno o flaen fy meddwl, yr wyf yn cofio hefyd yr arogl gymysgai awel y gorllewin i bersawru ei sandalau wrth grwydro dros y glynnoedd a'r bryniau hyn.

Yr oedd llawer o'r blodau wedi aros yn hwy na'u hamser, fel pe'n methu gadael bro mor gain. Yr oedd brenhines y weirglodd wedi mynnu gwisg o hen aur. A phwy feddyliech chwi oedd yn codi eu pennau, ac yn ymryson â'r frenhines mewn gwisg of borffor a heliotrope? Neb amgen na phys y llygod.[5] Ac yr oedd cylch yr eos,[6] safai'n wylaidd lle bynnag nad oedd eraill eisiau bod, wedi tynnu eu lliwiau o'r awyr yn hytrach nag o'r ddaear, oherwydd yr oedd rhywbeth yn eu glesni tyner yn sibrwd am yr angylion fu yn ein gwarchod, y rhai. gwaethaf o honom, yn nyddiau heulog bore oes.

Hyd yn oed i un heb wybod dim am lysieuaeth, y mae blodau'r Garneddwen yn agor byd o ryfeddodau. Dyma ddau flodeuyn yn tyfu yn ymyl ei

  1. Mentha arvensisi corn-mint.
  2. Spiraea ulmaria, meadow-sweet, llysiau'r mêl.
  3. Teucrum Scorodonia, wood-sage.
  4. Lonicera Periclymenum, gwyddfid, wood-bine, honeysuckle.
  5. Cicer, chick pea.
  6. 'Scilla nutans, harebell.