Tudalen:Yn y Wlad.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gilydd, dau nad oes neb wedi eu hau, dau nad oes neb yn gofalu am danynt, dau elwir yn lladron tir yn ddigon aml. Y llynedd y daeth y naill yma. Pe gofynnech i amaethwr beth yw enw'r blodyn glas tal. dywedai nad oes enw iddo. mai gyda'r hadyd y daeth o ddeheudir Rwsia; a lled awgryma, dan daflu trem ddigroesaw at y trespaswr talog, na fydd eisiau enw arno, gan nad yw i aros yn y tir yn hir. Dywed mai enw'r llall yw rhawn y march,[1] a bod hwnnw yno er pan mae ef yn cofio ac er pan oedd ei dad yn cofio o'i flaen. Da y gall ddweyd hynny. Pan oedd tân a mŵg a lludw a cherrig anferth yn codi i awyr lawn mellt a tharanau'r cynfyd, yr oedd rhawn y march yn y cymoedd hyn.

Yr oedd yn hawdd rhoi coron i un goeden eleni. a'i chyhoeddi'n frenhines y cymoedd. Y griafolen[2] yw hi. Y mae'r griafolen yn hardd bob amser. oherwydd prydferthwch ei ffurf yn bennaf. Ond eleni yr oedd ei lliwiau yn gwneud i rai sylwi arni na welasent ei phrydferthwch erioed o'r blaen. Coch a gwyrdd oedd y lliwiau hynny. Sylwais ar dlysni'r griafolen lawer gwaith. Ond eleni sefais mewn syndod wrth weled goched oedd ei haeron, cochter esmwyth tryloyw yn erbyn gwyrdd goludog y dail.

Ni welsom ond ychydig o adar, ambell asgell fraith[3] a'r haul yn fflachio ar wyn ei haden, yn gwibio'n ddistaw o lwyn i lwyn. Ond drwy'r dydd cawsom gwmni miloedd o gacwn geifr[4] a gwenyn. Yr oedd y gacynen a minnau, yn ddigon aml, yn

disgyn ar yr un fafen. Canai hi'n hapus, tybiwn

  1. Equisetum, horse-tail.
  2. Pyrus Aucuparia, cerddinen, mountain ash.
  3. Asgell arian, pinc, Chaffinch.
  4. Vespa vulgaris, wasp.