Tudalen:Yn y Wlad.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ofer ei bod yn dynwared su'r afon â'i hedyn. Na, ni chlyw hi sŵn yr afon na dim sŵn arall; eithr gwêl liwiau'n dda, a hwyrach y medd ryw synwyr na feddwn ni. Ac mor brydferth oedd ei lliwiau wrth iddi sefyll ar y ffrwyth du. Yr oedd y rhesi gwyrddaur sydd ar draws ei chefn yn troi'n euraidd ddisglair yn yr haul; ac yr oedd y llinellau a'r ysbotiau duon yn gwneud llewyrch aur ei chefn yn fwy tanbaid fyth. Yr oedd ganddi ddigon o amynedd, symudai'n ddiddig oddiar fafen y mynnwn i roi'm bysedd arni. Y mae'n ddiddig oherwydd ei bod yn gweithio mor galed. Cwyd yn fore, ymhell o flaen y wenynen, a noswylia ymhell ar ei hol. Y diwrnod cynt yr oedd plant yn tynnu nyth cacwn. Rhaid dweyd y gwir, yr oedd y cacwn, er eu tlysed, fel pla eleni. Tra'r oedd y plant wrth eu gwaith daeth hen filwr heibio. Milwr dewr oedd y milwr. Yr oedd wedi cerdded blynyddoedd, ol a blaen, i ddysgu cerdded yn syth, a rhoi ei droed yn fflat i gyd ar lawr ar unwaith, pe digwyddai i'r gelyn lanio ar y glannau heddychlon hyn. Dywedir iddo sefyll yn stond unwaith ar Green y Bala, lle'r oedd y milwyr yn dysgu cerdded i ryfel y flwyddyn honno, o flaen pwll o ddwfr. "Pam ti sefyll, a stopio, byddin?" ebai swyddog ieuanc prin ei Gymraeg. Atebodd y dewr nad oedd ef wedi rhoddi llw y croesai'r dŵr. Ni ymunodd â'r plant yn y gad yn erbyn y cacwn, ond ceryddodd hwy am eu creulondeb. "Wnai y cacwn bach ddim drwg i neb," meddai, mewn llais un yn deisyfu heddwch, ond iddyn' nhw gael llonydd." Gyda hynny daeth tyrfa o'r cacwn heibio, wedi ymgynddeiriogi wrth weled eu cartref cywrain wedi ei ddinistrio. Gan mai pen y milwr dewr oedd uchaf