Tudalen:Yn y Wlad.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymysg y pennau, ymglymodd y cacwn yn ei wallt a'i war a'i glustiau. Rhedodd yntau ymaith, gan waeddi a chyhoeddi rhyfel, fel pe bai'n arwain byddin i frwydr chwerw.

Nid lle unig yw y lle y mae'r Wnion yn dod o'r mynyddoedd. Y mae'r amaethwyr wrthi'n ddiwyd; y maent wedi torri pob mieri lle mae perigl iddynt gydio mewn gwlan dafad yn y gaeaf. Pobl fwyn a deallgar ydynt. Os mynnwch ymgomio am feirdd a llenorion, byddant wrth eu bodd. Draw acw y mae'r Blaenau, cartref Rhys Jones. Canodd ef ogan a maswedd, gwir yw, a dilornodd rai gwell nag ef ei hun; ond canodd gywyddau llawn doethineb a chrefydd. Efe oedd prydydd yswain y ddeunawfed ganrif, meddai ei ffaeleddau a'i ysbryd gormes, a chanai ei alargerdd. Yn y bedd yn unig y gwelai gydraddoldeb, a llawer cân ganodd i'r lefelydd mawr Angeu,—

"Rhagor ni chaf, ar drafael,
Mewn rhych, rhwng y gwych a'r gwael."

Yn ein hymyl wele Fryn Tynoriad y tu hwnt i'w. fryncyn. Gŵyr pawb yma mai yno y ganwyd Ieuan Gwynedd; ac y mae ei goffadwriaeth ef yn fyw ac anwyl eto. Ac onid yr wythnos cynt, pan oedd yr yd yn aeddfed i'r cynhaeaf, y cludid Machreth hynaws, weithgar, a phur i dŷ ei hir gartref ? Daeth adre, i ddisgwyl am yr hwyr, dan dderwent w Arthur,

"Yma'r wyf mewn hen gynhefin
Wedi oes o grwydro ffol,
Yma try hen olwyn Amser
Hanner canrif yn ei hol.

"Prun oedd lasaf y pryd hynny,
Ai dy ddeilen gyrliog di,
Dderwen Arthur, ynte wybren
Ddigymylau 'mywyd i?"