Tudalen:Yn y Wlad.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Flynyddoedd yn ol, adwaenwn fechgyn y fro hon yn dda, a deuai llawer ohonynt dros y Garneddwen i'r un ysgol a mi. Rhyfedd gynifer ohonynt fu farw'n ieuaine. Bechgyn hoffus oedd dau fab Drws Melai; bu'r ddau farw a'u bryd, mi gredaf, ar bregethu efengyl Iesu. Dacw Esgair Gawr. Oddiyno deuai bachgen bochgoch, diddan, caredig. Ni fedrai ei symledd a'i wyleidd-dra guddio ei allu. Aeth William Williams i Rydychen, a chafodd anrhydedd uchel yno. Daeth yn athraw, yn arholydd, ac yn awdurdod ar iechyd y cyhoedd. Yr oedd ganddo reddf ac athrylith at wneud ardal yn iach; ac i un o'i dymer addfwyn a charedig ef, rhaid mai gwaith wrth ei fodd oedd y gwaith bendithiol ymddiriedwyd iddo. Pan noswyliodd mor gynnar, yr oedd brif swyddog iechyd Morgannwg; ac yr oedd ei symledd pur megis llen oleu yn dangos ei allu a'i athrylith yn fwy hygar.

Y mae un peth yn ein gwneud yn brudd iawn mewn ardal fel hon. Ar bob llaw gwelir anedd-dai, fu unwaith yn gartrefi clyd i blant dedwydd, yn prysur adfeilio. Y mae tô Bryn Tynoriad, lle adeiladwyd yn gain gan yr hen Syr Robert Vaughan, a'r lle bu tad Ieuan Gwynedd yn afradu mer ei esgyrn i wareiddio Ffridd y Celffant, erbyn hyn yn dyllog. Edrych Cae'r Dynin yn hawddgar oddiar lethr y bryn, er nad oes wydr yn ei ffenestri na drws yn troi ar ei golyn ynddo mwy. Yn y plwy nesaf, sef Llanuwchllyn, y mae dros ddau gant o aneddau, gofid a'u haelwydydd yn gynnes, wedi mynd yn anhrigiannol. Yn y nesaf at hwnnw, sef plwy Llangower, nid yw'r boblogaeth ond hanner y peth oedd gan mlynedd yn ol. Ac y mae