Tudalen:Yn y Wlad.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

safleoedd rhai o'r tai aeth i lawr mor hyfryd a dim ellid ddymuno. Cymerer, er esiampl, y Parc Bach. Cil Gellan, Hafod y Bibell, a Thŷ'n y Pant.

Ofer, mae'n ddiau, yw tynnu teuluoedd yn ol i hen gyfnod y bara haidd a'r ganwyll frwyn. Y mae'r byd wedi newid, a safon cysur wedi codi. Ond eto gall dedwyddwch trigiannol yr hen gyfnod ddod yn ol heb ei dlodi. Onid gwych fyddai i bob. un sy'n gadael y tir i ennill ei fara yn y trefydd ddod yn ol i'w hen fro i dreulio ei wyliau? Nid yw trenau'r ymbleserwyr haf yn aros yn y fro hyfryd hon; ac eto, o ran iechyd a difyrrwch, dyma'r lle goreu i gyd. Ac onid yw hwn yn lle campus i yrru plant i'w magu, o leiaf ar dymhorau gwyliau'r trefi? Y mae plentyn fagwyd yn y wlad yn meddu meddwl cyflymach a dyfnach na phlentyn wedi ei fagu yn y dref. Medd fwy o eiriau, gŵyr fwy am natur, gwêl ymhellach. Y llynedd yr oedd un o arlunwyr blaenaf yr Amerig yn aros yn un o bentrefydd Cymru, i baentio plant. Yr oedd wedi anfon ei fachgen ei hun i aros ar fferm dros y gwyliau. "Y mae'n siwr o ddysgu gwneud rhywbeth yno," meddai. A'r gwir yw fod bywyd beunyddiol amaethwr yn foddion addysg iddo. Ond hwyrach yr awgrymi'n wawdus, ddarllennydd, y byddai'n dda i lawer ddilyn f'esiampl i, a mynd i ennill eu bywoliaeth yn y wlad trwy hel mafon duon. Dug hynny fi'n ol at fy mafon.

Mafon ardderchog oeddynt. Ni welais rai cymaint erioed, na rhai mor felys. Yr oeddynt bron felgrawnwin duon. Disgleiriai eu duwch dan oleuni'r haul. Hulient y perthi megis â hyfrydwch. Disgynnent i fasged neu law ond prin eu cyffwrdd. Yr oeddynt yno, ar lannau hyfryd yr afon, yn