Tudalen:Yn y Wlad.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddigonedd. "Er cynnifer sy'n dod i hel," ebe genethig o amaethdy gerllaw, "nid yw'r mafon ddim llai." Wedi eu cadw, gwnant fwyd danteithiol at y gaeaf. Gall teulu hel mewn diwrnod ddigon i wneud amser tê'n hyfryd drwy'r flwyddyn. Y mae llwythi ar lwythi ohonynt yn mynd yn ofer yn y cymoedd hyn bob blwyddyn. Ac eto, buasai eu hel a'u cadw yn waith iach, difyr, ac enillgar. Anfonodd Cyngor Sir Fynwy ŵr ar daith drwy'r ffermydd i ddysgu'r merched pa fodd i botelu a chadw ffrwythau, ac y mae'r sir ar ei hennill. fyddai i siroedd eraill Cymru wneud yr un peth. Gallai ambell ddarlith wneud llawer i ddatblygu cyfoeth gwlad.

Na chamddealler fi. Nid wyf am gadw'r ieuanc yng nghilfachau'r bryniau, er mwyned murmur y nentydd a su'r awelon, os bydd ei uchelgais yn ei alw i ffwrdd. Gwn yn dda na all dyn fyw ar farddoniaeth a mafon duon. Ond gwn hefyd mai addysg yn y wlad yw'r tebycaf o godi'r ieuanc i ddefnyddioldeb a chyfoeth. Rhydd barddoniaeth a mafon duon ddedwyddwch iddo hefyd, ac y mae dedwyddwch yn nerth. Cymeriad da i ddyn yw dweyd y medr wneud ei waith dan ganu.

Dan hel mafon duon ac ymgomio, yr ydym bron a chyrraedd pen y Garneddwen. Y mae'r afon yn troi'n awr i gyfeiriad Aran Benllyn, oherwydd oddiyno y daw. Ond y mae ffrwd lai yn ymuno â hi yma, wedi dod o ben y Garneddwen. Ac yma eisteddwn ar fur y ffordd, uwchlaw'r fan yr ymuna'r dyfroedd. Y maent yn canu'n hapus, ond nid yn rhy uchel i ni ddeall ein gilydd. A welwch chwi'r murddyn acw, nid oes ond muriau'n aros, uwchben trofa'r afon? Y mae ei safle'n ddymunol. Ymwasga cylch o goed masarn o'i gwmpas, gan grymu