Tudalen:Yn y Wlad.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drosto, fel pe'n ceisio achub ei furiau gwag rhag cam. Yn eu mysg y mae pinwydden brydferth a bedwen delaid, hwythau'n gwasgu ymlaen fel pe i gael rhan o'r fraint. Adfeilion y Dyfnant yw'r adfeilion. Bu'n llety clyd i fforddolion, pan redai'r ffordd yr ochr acw i'r nant. Ond ei fri pennaf yw ei fod wedi magu cenhadwr i fynd a'r efengyl i wledydd pell. Y mae'n hawddgar, er yn anghyfannedd, ac er fod y plant chwareuai yma gynt oll wedi mynd.

Fel dyfroedd nant y mynydd, mynd i ffwrdd wna'r bechgyn a'r genethod i gyd. Y mae'r afon ieuanc, sydd newydd adael unigedd y mynydd a chysgod y cwm, ac heb weled trigle dyn eto, yn galw arnynt i'w chanlyn, ac yn rhoi deuparth o'i ffydd iddynt. Fel yr â'r dyfroedd croyw peraidd i adfywio'r gwledydd cyn ymgolli yn y môr hallt, felly yr â plant y wlad i iachau a chryfhau a phuro bywyd y trefydd. Hwy sy'n arwain, hwy sy'n cynllunio, hwy sy'n dangos i eraill gyfrinion y gweledig a'r anweledig. Y mae awel garedig y deorllewin yn dod a'r dyfroedd yn ol. Daw'r niwl a'r glaw i lethrau'r Aran yn ol o'r môr, llanwant yr aberoedd fel o'r blaen, a murmurant yn hapus ar eu taith, yn llonnach ac yn burach nag erioed. Ond nid oes dim yn dod a bechgyn y Garneddwen yn ol; y mae eu cartrefi hwy, o un i un, yn dadfeilio i unigrwydd mud. Fath wlad fydd ein gwlad pan na bydd ychwaneg o fechgyn a genethod y cwm a'r mynydd i ddilyn yr aberoedd i lawr i'r gwastadeddau, i buro môr eang dynol ryw?

Nid colli amser yw ambell ddiwrnod ar y bryniau, yn gwrando ar ddwndwr croesawgar yr aberoedd bychain prysur. Hel mafon duon oedd yr esgus, ond anadlu iechyd oedd y gwaith, a chasglu atgofion fedr felysu llawer awr chwerw a blin.