Tudalen:Yn y Wlad.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y persawr hyfryd ymgodai oddiar y fro lwys fel diolchgarwch y duwiol ddiwedd dydd. O'm blaen, ac ar dde ac aswy, yr oedd cylch o fryniau heirdd. Wrth eu gweled daeth pregethwr yn y pulpud i'm cof, ac oddiwrth enw Edward Matthews y deallais i gyntaf fod y fath le ag Ewenni'n bod. Gwelwn ef yn codi ei lygaid, yn edrych ar y gorwel, yn darlunio cylch y mynyddoedd acw â'i law, ac yn dangos i dyrfa ddychrynedig fel y mae dull y byd hwn yn myned heibio. Aros mae'r mynyddau mawr o hyd, beth bynnag welaf o amgylch Ewenni heno, ni welaf y wyneb pwyllog a'r llygaid craff y bu miloedd o Gymry mewn llesmair o ofn neu lawenydd ger eu bron.

Ar hyd y ffordd tynnwn ysgwrs â rhywun beunydd, oherwydd y mae Cymraeg Bro Morgannwg wrth fy modd i. Pan oeddwn yn croesi afon Ewenni, arosodd hogyn oedd ar ei ferlyn aflonydd, i ddweyd wrthyf mewn Cymraeg gloyw beth oedd enwau'r lleoedd welwn. ""Ewenni" y galwai yr afon. Afon araf a digynnwrf yw, ca llysiau dŵr gwyrddion ynddi dawelwch wrth eu bodd. Mor hyfryd yw clywed enw pur yr afon wedi darllen am "ewyn wy" y ffug ddysgedigion. Nid oes yma nac ewyn nac wy, mwy nag oes o frenin Basan ac wy yn afon Ogwr.

A dyma fi yn y pentref bach gwasgarog. Troais at dŷ prydferth y safai dwy enethig fochgoch wrth ei ddrws. Dychrynnodd fy Nghymraeg hwy, a daeth gofid i'm calon wrth feddwl y gall unrhyw Gymraeg seinio'n aflafar neu'n estronol yng Nghymru. Galwasant "mam," a chefais rhwng tair wybodaeth fanwl mewn Cymraeg cain am y ffordd at gapel Ewenni.