Tudalen:Yn y Wlad.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Troais ar y chwith, a chodai'r ffordd i fyny'n weddol serth. Fel yr esgynnwn ymddadlennai Bro Morgannwg yn raddol o'm blaen. Yr oedd distawrwydd dwys awr hûn, a lledneisrwydd pur yr hwyr, yn gorffwys ar lesni cang y wlad o'm cwmpas. Teimlwn, prun bynnag ai dan wên haul ynte'n pruddhau o'i golli, mai gwlad ardderchog yw.

O'r diwedd deuais at goed, ac yng nghysgod y coed safai capel. Dyma'r capel y cyrchai amaethwyr y wlad iddo i wrando ar feddyliau beiddgar y gŵr oedd yn un ohonynt, ac yn eu deall i'r dim. Ond mor unig yw, ac mor brudd. Mae llwydni'r nos yn cymeryd gwawr ddu yn awr, ond rhaid mai trymaidd yw'r capel ganol dydd. Tywyll a hagr yw gwydr ei ffenestri, a'u hamcan i guddio prydferthwch y dydd rhag y rhai sydd a'u meddwl ar wlad na raid wrth oleu haul na ser ynddi. Yn uwch ar fin y ffordd na'r capel y mae ystabl, a'r llecyn gwyrdd rhyngddi a'r capel wedi ei orchuddio gan dyfiant bras anfaethlon, a'i drws yn agored i bob crwydriaid budr esgymun i droi iddi. Nid rhoi rhaff i'm dychymyg yr wyf; clywais fod ystabl y capel yn noddi "show o dramps" pryd bynnag y goddiweddo'r nos hwy yn y gymydogaeth hon. Ni raid gofyn i ba enwad y perthyn y capel. Nid oes ond un enwad yng Nghymru, er ei urddas a'i drefn, sydd mor ddiofal am ei eiddo a hyn. Ni theimlais ddim erioed mor fud a'r capel hwn, wrth gofio am yr hyawdledd y bu'n gartref iddo. Ni welais unlle mor brudd ychwaith. Nid pruddle mynwent oedd, nid oes yno fynwent. Yr oedd y coed trymaidd, y gwydr digroeso, a'r chwyn tal yn gwneud yr addoldy yn ddarlun o anghyfanedd-dra. Ac eto, yn ei unigedd a'i brudd-der, yr oedd y capel yn syml