Tudalen:Yn y Wlad.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yn urddasol. Hwyrach, o ran hynny, pe buaswn yno yng ngwres y dydd, y cawswn y prudd-der wedi troi'n gysgod adfywiol; ac y cawswn gipolwg ar eangder Bro Morgannwg o le cyn hyfryted ag Elim.

Gwych gan drigolion Ewenni son am Edward Matthews. Yr oedd gwraig radlon ganol oed, y bu ei rhieni yn eistedd wrth ei draed, "yn ei gofio fe'n nêt," ac yr oedd yn rhoi pris mawr ar ryw ddodrefnyn fu unwaith yn eiddo iddo. Dywedai un arall nad yw'r amaethwyr yn tynnu i'r capel ar lethr y bryn fel y byddent, nit oes pwer o aelote yno 'nawr." Ne, ne," ebe un wedyn, "nid yw crefydd yn awr y peth fydde hi yn y wled." Ond cytunent ar un peth, fod y pregethwr eto'n fyw ar y Fro ac ym meddwl pawb a wrandawai arno.

Troais yn ol, gan gofio yr hyn a wrandewais innan, yn blentyn ac yn llanc. Ar gwr y pentref cefais fy hun heb yn wybod yng nghanol twr o lanciau. Cyferchais hwy, yn ol fy arfer, yn Gymraeg. Medrai rhai Gymraeg da, a rhai Gymraeg carbwl, ni feddai rhai eraill ond olion ar eu Saesneg double negative. Ond cymerent ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg. Esbonient i mi'r enwau Saesneg oedd ar fynegbost gerllaw, mai y Wig oedd Wick, ac mai Tregolwyn oedd Colwinston. Dywedent fod y plant i gyd yn dysgu Cymraeg yn yr ysgolion yn awr; ond daeth hynny "too late for us." ebe rhai ohonynt yn eithaf prudd.

Yr oedd yn nos haf pan gerddwn i Benybont yn ol. Ar y dde i mi, yn rhywle yn y tywyllwch, yr oedd priordy Ewenni. Clywswn lawer o son amdano. Benedictiaid a'u hadeilasent. Ar y gwastadeddau yr hoffent hwy fod, a chyda gerddi a pherllannoedd a gwartheg yr oedd eu diddordeb hwy; tra ar y