Tudalen:Yn y Wlad.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mynyddoedd y byddai'r Cisterciaid, a'u bryd ar unigeddau a defaid a gwlan. Darllennais lawer am gyflwr yr adeiladau, gan ysgrifenwyr o adeg Gerallt Gymro hyd Ddafydd Morgannwg. A hoffaswn weled yr adeiladau fy hun. Ond yr oedd yn rhy hwyr i weled dim heno. Rhown raff i'm dychymyg i leddfu fy siom. Gwelwn yr eglwys yn cynnwys rhan o hen eglwys y mynachod; gwelwn furiau amddiffynfeydd ac addoldy'n gymysg; gwelwn yr eiddew'n araf ymlwybro dros ddaeargell a mur a thwr fel pe'n ceisio tyner guddio hanes yr hen amseroedd oddiwrth lygaid amseroedd gwell. A thros feddau hefyd, oherwydd y mae llawer o feddau Clare, Turberville. Carne, gorweddant yma'n ddigon llonydd, heb awydd am dir nac am ddial mwy. Ac yma y gorwedd y Maurice de Londres gododd fraich haearn dros ardal hoff Cydweli, ac a ddaeth allan o'i gastell i orchfygu a lladd Gwenllian, merch arwrol Gruffydd ab Cynan a gwraig Gruffydd ab Rhys; un gysylltai nerth y ddau deulu amddiffynnai Gymru. Ac ar fedd rhywun tebig i'r Maurice hwn y mae gweddi Ladin am i'r Arglwydd gymeryd trugaredd ar ei enaid. Yr oedd digon o eisio gweddio fel hyn wrth wely marw'r barwn Normanaidd, gŵyr pawb.

Tan feddwl, wele fi yn dod o'r nos i heolydd goleu a thorfeydd siaradus Penybont ar Ogwr. Y peth fynnai aros yn eglur yn fy meddwl oedd y capel bach unig ger y ffordd ar lethr y bryn.