Tudalen:Yn y Wlad.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VIII
DYFFRYN BANW

AR nawn hyfryd ym mis Medi, rai blynyddoedd yn ol, bum trwy Ddyffryn Banw ar ei hyd. Yr oedd wedi gwneud haf gwlyb, nid oedd y gwair i gyd wedi ei hel oddiar y caeau; ac yr oedd diwedd yr haf yn heulwen a chawod bob yn ail, er mawr ddrwg i'r gwair oedd fel carth hyd y caeau, ac er mawr dlysni i'r adlodd gwyrdd ac i wrid ffrwythau'r griafolen.

Yr oedd gennyf gerbyd ysgafn a merlen hoyw, yn rhedeg yn esmwyth a gwastad lyfn. Oni bai am y peth oedd ynddo, pe gwelsech y cerbyd yn cyflymu i lawr heol Llanfair Caereinion, â bothau meinion gloyw'r olwynion yn lluchio goleuni'r haul o'u cwmpas wrth droi, dywedech eich bod yn sicr yn gweled peth cain. Yr oedd popeth wedi ei wneud i fynd, yr oedd sŵn mynd hyfryd yng ngharnau'r ferlen raenus, yr oedd y cerbyd fel peth byw na allai fod yn llonydd, ac yr oedd golwg y gyrrwr byrdew cydnerth yn sefydlog ar ben ei daith.

Rhyw eiliad gefais ar bont Llanfair i weled afon Banw'n llithro i lawr o'r mynyddoedd tua dolydd Hafren. Ar y dde, rhedai i lawr, ar yrfa fer, heibio i adfeilion distaw unig Mathrafal, i ymgolli yn afon Fyrnwy, i honno ei chludo ymlaen i afon Hafren. Ar y chwith gwelem hi'n dod o'r mynyddoedd, weithiau dan gysgod coed, dro arall