Tudalen:Yn y Wlad.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn disgyn dros riwiau. A chwim y troisom ar y chwith, gan feddwl gweled ei gyrfa yn ol hyd ei tharddiad. Rhedodd y cerbyd hyd ffordd wastad, hyd nes y gadawsom Felin y Ddôl, lle sydd a chymaint o dlysni yn ei wedd ag sydd o fiwsig yn ei enw.

Ac yn awr dyma ni ar ddyffryn hyfryd gwastad, a Moel Bentyrch yn codi yn union o'n blaenau i uchter o dros fil o droedfeddi. Rhed y ffordd yn union ar hyd y gwastad, ac y mae gennyf atgofion eto am ymgais y gyrrwr i esbonio ystyr enwau'r ffermydd welem ar dde ac aswy, ond enw Rhos y Gweision yn unig sydd wedi aros yn fy nghof. Ond am yr afon y mae hi'n cymeryd trofeydd mawr hamddenol. Croesasom afon Einion, sy'n disgyn iddi. Unwaith, pan ddeallem oddiwrth y sŵn gwag ein bod yn croesi pont, ebe'r gyrrwr,—Dyna gontract cyntaf David Davies." Heb deitl o'i flaen na gradd ar ei ol, y mae'r enw David Davies yn enw mwyaf grymus yn sir Drefaldwyn. Meddai ef gyfuniad o'r synwyr cyffredin cryf sy'n ennill edmygedd, ac o'r crefyddolder dwfn sy'n ennill parch; ac yng ngrym ei gymeriad, yn fwy nag oherwydd ei lwyddiant, yr erys ei enw yn fyw iawn ar gof gwerin y sir.

Pobl ddwys, garedig, hoffus, a boneddigaidd yw pobl sir Drefaldwyn. Gallant godi'n uchel iawn mewn dyhead am fywyd pur y swynwyd hwy gan ei dlysni; gallant ddisgyn yn isel iawn mewn awydd am foddhau'r cnawd, yn enwedig pan fo syched am ddiod feddwol. Y mae unigedd a thawelwch broydd hyfryd y sir yn taflu'r enaid, i raddau pell, ar ei gwmni ei hun. Dyhea'r enaid unig am bleser. Gwyddoch ar wynebau llawer