Tudalen:Yn y Wlad.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a gyfarfyddwch mai o'r cnawd yn unig, ac o'r ddiod yn bennaf, y daw eu cysur. Rhodder iddynt, felly, bleserau uwch. Prif ffynhonnell y bywyd uwch yn y dyffrynnoedd a'r cymoedd hyn yw'r Ysgol Sul. A dacw'r Gelli, cartref yr Owen Jones. ieuanc hawddgar fu'n crwydro'r ardaloedd hyn i sefydlu a maethu yr ysgolion bendithiol. Y llais goreu yw emyn fedd felodedd yr hen gerddi a gwelediad y bywyd gwell; y mae pob ffordd welwn ar y dde yn arwain i gyfeiriad Dolwar Fach. Dan feddwl am Owen Jones ac Ann Griffiths, wele ni ar gyfer y Gelli. Gwelwn of dros ei weirgloddiau, lle gorwedd defaid dan ei goedydd tywysogaidd. Tŷ glân yw, yn edrych arnom yn hawddgar dros ei erddi, a'r Foel yn codi'n serth dros bum cant o droedfeddi y tu ol iddo. Yno, ebe'r gyrrwr, yr oedd mab Owen Jones yr Ysgol Sul yn byw, erbyn hyn yn hynafgwr patriarchaidd, yntau'n enwog fel pregethwr ac fel darlithiwr. Gwelem goeden afalau yn yr ardd. Dan honno, ryw ddeng mlynedd yn ol, y rhoddwyd gwraig Owen Jones i huno. Ac acw y mae yntau'n awr, mewn unigedd, a miloedd o'r rhai gyrchai'n dyrfaoedd i wrando arno gynt yn tybio ei fod yn ei fedd.

Tremiais i geisio cael cipolwg arno yn ei ardd neu hyd ei gaeau, ond cuddiodd y Foel y lle o'n golwg cyn i mi gael hyn. Dyna ni'n rhedeg yn rhwydd eto, hyd ffordd ddiddorol, ac yn y man yn aros o flaen gwesty Llanerfyl, lle'r oeddym i dreulio'r nos. Gwesty hyfryd yw, a chysurus. Cwyd y Ddisgwylfa ei phen o'i flaen dros ddeuddeg cant o droedfeddi, gyda hen gaer y Gardden ar ei llechwedd yn edrych i lawr ar gwm clyd Nant Menial. Yr oedd yn nawn tawel, nid oedd awelig