Tudalen:Yn y Wlad.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fedrai ysgwyd y gwlith oddiar y rhosyn. Yr oedd eto awr o leiaf cyn y nosai. Daeth awydd drosof am weld Owen Jones, ac eto yr oedd teimlad greddfol yn erbyn ymweled ag ef. Ni fedraf wthio fy nghwmni ar neb. Tybiaf fod pawb yn brysur, a phwy wyf fi i fynd at ŵr enwog, a gofyn iddo a rydd beth o'i amser i mi ? Collais gyfle, felly, i ymddiddan a Cheiriog a Mynyddog; bum wrth gartrefi Villemarque a Renan, ond nid oedd gennyf y wyneb i ofyn am gael eu gweled. Ar un cyfrif y mae yn edifar gennyf am fy swildod. Ac a oedd yn iawn i mi dorri ar unigedd Owen Jones?

Ffordd bynnag, cychwynnais am dro yn ol hyd y ffordd i gyfeiriad y Gelli. Troais i lawr o'r ffordd, a daethum i gwm bychan cysgodol; a dail melyn yr hydref yn dechre ei garpedu â phorffor ac ag aur. Yma, heb sŵn ond murmur gwan afonig, y mae capel bychan Pentyrch, dan gysgod y Foel. Oddiyma arwain llwybr fyny'n syth at y Gelli. Dechreuais ei ddringo, gan ryfeddu pryd y trown yn ol. Rhaid fod Owen Jones yn hen iawn. Cofiwn fod ei dad, Owen Jones y cyntaf, yn priodi aeres y Gelli gan mlynedd i'r flwyddyn honno. Yr oedd yr Owen Jones hwnnw wedi marw er ys pedwar ugain mlynedd. Nid oedd ond ychydig dros ddeugain oed, pan fu farw yng nghanol ei waith; ond dyma ei fab yn unigedd y plas bychan acw wedi goroesi ei holl gyfeillion. I dorri ystori hir yn fer, cefais fy hun yn curo wrth ddrws cefn y Gelli.

Daeth genethig at y drws. Cefais fy hun yn gofyn a gawn weled Owen Jones. Arweiniodd fi i'r neuadd a diflannodd. Toc wele ddrws ar fy nghyfer yn agor. Ynddo safai gŵr a golwg