Tudalen:Yn y Wlad.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

batriarchaidd arno. Yr oedd ei farf wen hirllaes a'i wedd sobrddwys brudd, yn gwneud iddo edrych fel pe deuai ataf o'r hen oesoedd neu o fyd arall. Wyneb cul oedd y wyneb, fel wyneb ysbryd. Gwelwn lygaid disglair treiddgar yn syllu arnaf. Nid teimlad, ond beirniadaeth, oedd yn y llygaid. Nid am yr efengylydd, ond am yr areithydd llym a'r cynllunydd medrus, y meddyliech. Yr oedd cyfuniad dieithr o'r ieuanc a'r hen ynddo. Cerddai'n wisgi, ond nid oedd nerth i'w weled yn ei daldra; edrychai'n herfeiddiol, ond yr oedd shawl hen wraig yn rhoi cynhesrwydd i'w ysgwyddan. Mewn castell adfeiledig, yn nyfnder nos, ar loergan lleuad, y disgwyliech weled presenoldeb fel hyn. Beth wnaethet, ddarllennydd mwyn, pe buaset yn fy lle? Pa esgus wnaethet? A fuaset yn cynnyg gwerthu llyfr iddo? Dywedais i y gwir yn onest, fy mod yn digwydd teithio y ffordd honno, a bod y demtasiwn i'w weled wedi mynd yn drech na mi.

"Dowch i mewn!

Dilynais ef i'w ystafell. Yr oedd awyr yr ystafell, er yn bur a iach, yn awyr ystafell dyn gwael. A gwaelni diobaith yw henaint. Aeth ias i'm calon. wrth sylweddoli na welid mo'r gŵr rhyfedd hwn. mewn pulpud nac areithfa byth mwy. Dechreuodd siarad am fy nheulu yn Llanuwchllyn, rhai adnabyddai'n dda, a synnai fod y genhedlaeth adnabyddai ef wedi marw i gyd. Ac eto yr ydym ni yn weddol hirhoedlog; gwelodd fy nhad a'm taid a'm hendaid bedair canrif o fewn dim. Yr oeddwn wedi bod yn crwydro drwy ardaloedd Pontrobert y dyddiau cynt; dywedais wrtho