Tudalen:Yn y Wlad.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i mi fod yn nhŷ John Hughes, bywgraffydd ei dad; a datgenais fy ofnau nad oedd meddwl yr ardal mor egniol ag y bu.

"Pont Rhobert! meddai. Na, nid ydyw yr un. Y mae'n is byth ar ol marw John." Ydych chwi'n cofio John Hughes, Pontrobert?" Ei gofio! Ydw. Bu'n eistedd yn y gadair yr ydych chwi ynddi yn y fan yna laweroedd o weithiau. Ac mae John wedi mynd."

Nid oedd yn ymddangos ar hyn o bryd fel pe am ddweyd hanes yr hen batriarch o Bontrobert. Dywedais innau imi fod yn gweld bedd Richard Jones o Lanfair, ac mai gresyn na wneid rhywbeth i gadw ei athrylith mewn cof. Yr oedd tinc o chwerwder yn ei lais wrth ddweyd.—

"Mae'n nhw'n dechre i anghofio ynte yrwan, mae'n debig geni."

Trodd yr ysgwrs at ardaloedd Maldwyn. Dywedais fod rhai ardaloedd yn cynhyrchu pobl feddylgar, ac enwais Lanbrynmair; awgrymais hefyd fod rhyw ardaloedd yn colli eu meddylgarwch. Ei ateb oedd,—

"Mae hynyna oll yn wir. Mae Llanwyddelan a Llanllugan yn hen ardaloedd enwog am eu crefydd a'u meddwl. Yr wyf fi yn cofio pump o bregethwyr yn Llanwyddelan."

Troais gyfeiriad yr ymddiddan i'r Deheudir. Pan oedd ef yn Nowlais, prin yr oedd y De yn ddigon llydan iddo aci Matthews Ewenni. Hwyrach mai prin y gallesid disgwyl i ddau o athrylith mor feiddgar a dieithr fedru cyd-dynnu fel pe buasent bâr o ychen tewion llonydd. Ac mi glywais fod y cledd a'r bicell ar waith weithiau. Adroddais fy hanes yn mynd ar bererindod ryw noson waith