Tudalen:Yn y Wlad.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'r Bala i wrando Matthews ar un o'i ymweliadau anaml â'r fro. Soniais am fanylion ei ddarluniadau cyffrous, a dywedais mai manylion y bregeth, ac nid ei chyfanswm, oeddwn yn gofio. Taniodd hyn ei lygaid, ac ebrai ef, gan gofio am ryw bregeth na chlywais i,—

Manylion, ie! Mae pobl yn dweyd nad oeddynt ond manylion. Ond mi ddoi at bwynt y gwelen nhw ar amrantiad beth oedd meddwl y manylion. Ac yna ysgubai bopeth o'i flaen. Weithiau cadwai y pwynt hwnnw, heb neb yn ei weled ond efe ei hun. Ni welen nhw ddim ond manylion bron trwy gydol y bregeth. Yna deuai bloedd,— Gadewch i mi farw,'—a deuai'r manylion yn un meddwl mawr gorthrechol."

Yr oedd y patriarch yn dal yn ŵr ieuanc yn fflam ei feddyliau. Wrth ei weled felly, mentrais ofyn a fyddai efe yn medru pregethu neu ddarlithio ambell dro yn awr. Edrychodd yn dreiddgar, os nad yn ddrwgdybus arnaf, a dywedodd yn syml, ond gyda rhyw arafwch prudd na allaf fi ei ddarlunio.——

"Na ! Yr ydw i yn saith a phedwar ugain oed, ac y mae rhyw ysgafnder yn dod i'm pen pan safaf yn hir."

Cyfeiriais at addysg pregethwyr, gan ddweyd fod dysg yn amlwg iawn, fod talent a hyawdledd yn amlwg hefyd, ond nad oedd cymaint o'r athrylith wnai bobl yn anhebig i'w gilydd.

"Mae rhywbeth dyfnach na hyn ar ol," meddai. Ac yna, gydag ynni newydd, dechreuodd ddatgan ei ofnau am effaith y Ddiwinyddiaeth Newydd. Yr oedd hyn yn peri ychydig o syndod i mi; oherwydd, os yw pob stori'n wir, nid oedd ganddo