Tudalen:Yn y Wlad.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ef ei hun wrthwynebiad i brofi pethau newydd. Yr oedd yn ei feddwl gyfuniad o ryddfrydiaeth lem feirniadol ymladdgar ac o geidwadaeth a'i thynerwch a'i chydymdeimlad o'r golwg.

Trwy ryw ddamweiniau, cefais adnabod llawer o gydoeswyr Owen Jones, megis Edward Matthews, David Saunders a Dr. Edwards. Yr oedd ef a Saunders yn hollol wrthgyferbyniol. Naws oedd elfen amlycaf Dr. Saunders, beirniadaeth oedd elfen amlycaf Owen Jones; gwres serch yn toddi oedd un min erfyn dur oedd y llall. Yr oedd Matthews ac Owen Jones yn rhagori fel dadansoddwyr; ond hel golygfeydd i gyfanu drama bywyd wnai y naill, tra mai gosod gwahanol feini adeilad cywrain wnai'r llall. Meddai Dr. Edwards ac Owen Jones urddas, ond yr oedd urddas Dr. Edwards yn fwy heddychlon; urddas unigedd heddwch oedd, nid urddas tywysog llu ymosodol. Braidd. na thybiaf weithiau, er ei holl anhawsterau, y meddai Joseph Thomas neilltuolion goreu'r pedwar. Arabedd fflachiol, nid naws toddedig, oedd nerth Owen Jones. Synnai gynulleidfa â throeon chwim ei feddwl cyflym; nid y wên ar wyneb doethineb oedd ei arabedd, ond symudiadau buan anisgwyliadwy ei ddychymyg bywiog. Teimlad yn unig oedd ar ol. Yr oedd ei welediad fel min cleddyf; ond nid oedd trallodion bywyd a hunan aberth wedi dofi ei natur. Cydiai yn ei bicell lle bynnag y byddai.

Nid rhyfedd felly ei fod yn wleidyddwr aiddgar a dylanwadol. Troais yr ymddiddan at wleidyddiaeth. Yr adeg honno yr oedd Campbell-Bannerman yn arwain y Rhyddfrydwyr. Yr oedd gan Owen Jones feddwl mawr o hono, gwelai y cadernid