Tudalen:Yn y Wlad.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

addfwyn oedd o dan holl symudiadau yr arweinydd hawddgar a doeth. Darllenai'r Manchester Guardian bob dydd. Mewn gwleidyddiaeth hefyd, yr oedd ynddo gyfuniad o'r hen a'r newydd. Carai les y gwerinwr fel yn y dyddiau pan roddodd ei holl dalent ar waith i geisio ei ryddhau. Ond siaradai am newydd Blaid Llafur fel y siaradasai am y Ddiwinyddiaeth Newydd. Gydag addysg hefyd meddai'r un cyfuniad; eisiau mwy o egni ac eisiau mwy o gyfaddasu at anghenion gwlad. A dyma'r hen dywysog poblogaidd yn unigedd henaint. "Efe a eistedd ei hunan, ac a daw a son." Ni allai gael cartref mwy cysurus, nac atgofion am oes lawnach. Daeth gyda mi at y drws, a ffarweliodd yn null caredig y boneddwr perffaith.

Meddyliwn, wrth ei adael, tybed a gawn ei weled byth mwy. Anfonodd gennad serchog ataf, i ofyn imi ddod yno pan yn mynd heibio'r tro nesaf. Ond yr oedd ef wedi cychwyn ar y daith hir cyn i mi fynd at y Gelli drachefn. Yn hen ŵr rhadlon maddeugar, unig y gadewais i ef.

Pan ddaethum drosodd i Ddyffryn Dyfi, eis at hen gyfaill oedd yn ei gofio yn ei ogoniant. "Yr wyf yn ei gofio,' meddai. yn y Dyffryn hwn ar y maes o flaen John Elias. A fo aeth a hi o ddigon, yr oedd ei arabedd wedi gwefreiddio'r dorf." Adroddai am dano yn y Cemaes hefyd ar adeg etholiad brwd. Yr oedd sir Drefaldwyn yn newid ei chynrychiolaeth, ac yr oedd pob gallu ar waith. Owen Jones oedd arw y cyfarfod, ac yr oedd teimlad yn rhedeg yn uchel iawn. Ymysg y dorf yr oedd gŵr ieuane wyf fi'n gofio'n rheithor tawel yn y Bermo ac yn ganon boddlon ym Mangor.