Tudalen:Yn y Wlad.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond yr adeg honno yr oedd yn orlawn o egni a hyawdledd câd. Ymwthiai i'r llwyfan, a gwaeddai wrthdystiadau. A rhag ofn i lanciau Dyfi wneud niwed iddo, galwodd Owen Jones am osteg. Ail anerchodd y dyrfa gythryblus,—

"Pan oeddwn i'n byw yn Nowlais, mi welais ddau ddyn yn ymladd ar yr heol. Yr oedd un wedi cael y llall i lawr. Ac wrth geisio ei gadw i lawr, yr oedd yn gwaeddi nes oedd y fro yn diaspedain. Pam rwyt ti'n gwaeddi? A dyna oedd ei ateb,— Dod i fyny y mae, er fy ngwaethaf.'

Gadewch i hwn gadw sŵn. Gweld y mae fod y wlad yn dod i fyny er gwaethaf popeth." Hawdd oedd gweled ergyd yr ystori, pan oedd gallu newydd yn y sir yn taflu'r hen allu i lawr. Llawer ystori debig o'i eiddo sy'n aros ar gof gwlad. Pan soniwn am dano, edrychai pobl arnaf yn syn. Yr oeddynt wedi anghofio am dano. Wedi sylweddoli ei fod yn fyw, yr un peth ddywedai pawb,— "Onid oes obaith ei weled yn dod y ffordd yma eto ?"

Y mae'r Gelli'n wag erbyn hyn, a gwag hefyd yw y bedd dan y goeden afalau. Tua dechreu'r flwyddyn hon cludwyd Owen Jones i'r fynwent brydferth yn Llanfair Caereinion lle'r hûn ei dad a Richard Jones. Fis wedyn, yn ol y cyfarwyddyd adawodd, agorwyd y bedd yn yr ardd. Pan oedd hi'n troi hanner nos Sul ym mis Mawrth, a chaenen o eira yn gwneud i'r wlad edrych fel drychiolaeth, codwyd gwraig ei ieuenctid o'i bedd, ac yr oeddis wedi ei rhoddi i ail orwedd ym medd ei gŵr cyn i neb yn Llanfair ddeffro o'i gwsg y bore Llun hwnnw. Yr wyf yn Nyffryn Banw o hyd; ond y mae'r afon, wrth roi tro am Foel Bentyrch, gryn ddwy