Tudalen:Yn y Wlad.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

filltir o'r ffordd. Y mae fy hanes innau wedi mynd yn bell oddiwrth ei destun. Maddeuer i mi; Owen Jones oedd rhyfeddod a gogoniant Dyffryn Banw y flwyddyn honno.

Clywais lawer o ddoethineb yn y gwesty y noson honno, a gwelais ryfeddodau. Yr oedd yno gleddyf tywysog; y mae gwraig y gwesty yn dywysoges weddw. Cefais hanes clwy'r edeu wlan. Yr ydych yn sal iawn, eich gwaed yn boeth a'ch ysbryd yn isel. Os felly, ewch at y doctor edeu wlan. Rhwymwch yr edeu wlan am y goes tan y pen glin, ac yfwch gwrw a dur ynddo neu Holland gin a saffrwm ynddo. Yna byddwch yn iach. Digon gwir, rhydd teimlo'r edeu wlan ffydd i chwi, pura'r dur a'r saffrwm eich gwaed; ond yn fy myw ni allaf weled i beth mae'r cwrw a'r ddiod arall dda.

Nid oes bosib peidio cysgu yn Llanerfyl. Pe deffroech yn y nos, clywech su pell nentydd y mynydd; daw Natur, fel mam dyner, i roi cwsg trwy eu hwian. Bore drannoeth eis ymlaen i'r pentref, a themtiwyd fi gan ei hen yw mawreddog i fynd i'r fynwent. Ac yma y mae Banw a'r ffordd yn dod at ei gilydd drachefn.

Pobl brysur yw angeu a'r clochydd. Yr oedd y clochydd welais i, yno er ys chwarter canrif, ac yr oedd wedi canu cnul dros dri chant o'i gymdogion. Mwyn oedd rhodio trwy'r acer dawel ar lan yr afon. Y mae gwŷr talentog yn huno yma. Dyma ddywed englyn Derwenog am Evan Lewis Llwyn Derw, fu farw'n ddeuddeg a thrigain oed,—

"Athraw da, a thra diwyd—oedd, a'i waith
Iddo ef yn hawddfyd;
Ei lafur yn dâl hefyd
A wêl efe mewn ail fyd."