Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

RAI blynyddoedd yn ol penderfynodd Pwyllgor Llenyddol Urdd y Graddedigion ail-argraffu cyfres o glasuron llenyddiaeth Cymru. Barnwyd yn ddoeth ychwanegu at y clasuron cydnabyddedig, nifer o lyfrau eraill, i'r rhai y perthynai rhyw werth neu ddyddordeb neilltuol. Yn eu plith dewiswyd y llyfryn bychan hwn, ar gyfrif y dyb mai efe yw cyntafanedig y wasg Gymraeg. Gwasanaetha hefyd fel cof-arwydd am yr awdwr, un o'r gwladgarwyr puraf a fagodd Cymru erioed. Hwyrach mai hwn yw un o'r llyfrau prinaf yn yr iaith, oblegid cyn belled ag a wyddom nid oes ond un cyfargraff ar gael a chadw heddyw. Argraffwyd ef yn Llundain gan Edward Whitchurch yn y flwyddyn 1546. Cyfeiria yr Esgob Rhisiart Davies ato yn ei Epistol at y Cymry (1567) fel y canlyn: "Eithr mor ddiystyr fydday iaith y Cymro, a chyn bellet ir esceulusit, ac na allodd y print ddwyn ffrwyth yn y byt yw gyfri i'r Cymro yn i iaith i hun hyd yn hyn o ddydd neu ychydic cyn hyn i gosodes Wiliam Salsburi yr Efengylon a'r Epystelay a arferid yn yr Eglwys tros y flwyddyn yn Gymraeg yn print, a Syr Jhon Prys yntay y Pader, y Credo a'r X Gorchymyn." Flynyddau lawer ar ol hyn dywed yr Esgob Humphreys (1648-1712), yn ei ychwanegiadau at lyfr Anthony a Wood fod copi o'r llyfr yn ei feddiant ef ar un adeg, ond iddo fyned ar goll. Ceir cofnod am dano yng Nghofrestr Moses Williams (1717) o dan y penawd Bibl,' ac yn y