Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Typographical Antiquities' gan Ames (1749), ond collwyd golwg arno o'r amser hynny nes y cafwyd ef yn Llyfrgell yr Arglwydd Macclesfield yng Nghastell Shirburn. Bellach y mae'r adran Gymraeg o'r llyfrgell werthfawr hon wedi dod yn feddiant i Syr John Williams, Barwnig, ac y mae iddi gartref clyd a diogel ym mysg trysorau y meddyg gwladgarol.

Llyfr di enw

Y mae un neilltuolrwydd arbennig yn perthyn i'r llyfr. Nid oes enw iddo. Bu hyn yn achos i ddyrysu y llyfryddwr llafurus Gwilym Lleyn. Y mae'n eglur ddigon na welodd efe mo'r llyfr, ond er hynny y mae yn gwneyd y nodiad canlynol arno: "Dodwyd Beibl mewn llythyrennau breision ar ben uchaf y ddalen gyntaf, i dynnu sylw mae yn debyg, gan fod rhannau o'r Beibl ynddo, yr hwn oedd hollol ddyeithr yng Nghymru yn y dyddiau hynry." Gwel y darllenydd fod y nodiad yn gwbl anghywir. Fe ddichon i Wilym syrthio i'r gwall hwn oherwydd fod y llyfr yn cael ei restru o dan y penawd 'Bibl' yng Nghofrestr Moses Williams.

Syr John Prys oedd yr awdwr

Gan nad yw enw yr awdwr wrth y llyfr, erys peth amheuaeth parthed ei awduraeth; ond, a barnu oddiwrth dafodiaith ac yng ngwyneb geiriau yr Esgob Davies, nid oes le i amheu nad i'r Deheuwr Syr John Prys y perthyn yr anrhydedd o'i gyhoeddi. Yn ei ragymadrodd, dywed yr awdwr mai er lles ysprydol y Cymry uniaith yr ymgymerodd efe a'r gorchwyl o ddwyn y llyfr allan. "Pechod mawr," meddai, "oedd ado yr sawl mil o enaideu y vyned ar