Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfrgolh rac eiseu gwybodaeth y ffydd gatholic, ac y sydd heb wybod iaith yny byd onyd kymraeg." Hwyrach fod y brenin yn cymeradwyo ymgais yr awdwr, o herwydd ar ddechreu y llyfr dywed, "Yr awr nad oes dim hoffach gan ras yn brenhin urddassol ni no gwelet bot geirieu duw ae evengil yn kerddet yn gyffredinol ymysk y bobyl ef, y peth y ddengys y vot ef yn dywyssoc mor ddwyvawl ac y mae kadarn. A phan roes eiswys gymmaint o ddonieu pressennol y genedyl kymry ny bydd lhesgach y gennadhau yddyn ddonyeu ysprydawl."

Ychydig cyn hyn, sef yn y flwyddyn 1536, yr oedd Harri wedi pasio deddf Uniad Cymru a Lloegr, a thrwy sefydlu llywodraeth gref yn Llwydlo, wedi llwyddo i atal rhaib a phenrhyddid gwylliaid a bonedd y wlad; dau ddosbarth o bobl bron yn gyfystyr yng Nghymru yr adeg honno. Llys Llwydlo a'i swyddogion felly gynrychiolai y "doniau presenol," ac yr oedd y maes yn rhydd i Syr John Prys, William Salesbury a'r Esgob Morgan gyflenwi Cymru a "doniau ysprydol."

Trem ar Hanes Cymru.

Hwyrach mai buddiol fyddai taflu cipolwg frysiog ar ystad Cymru yn 1546. Yr oedd y Cymry am ddwy ganrif a hanner wedi talu gwarogaeth, ewyllysgar neu anewyllysgar, i Loegr. Ar brydiau codent mewn gwrthryfel yn erbyn y Sais, brydiau eraill ymladdent frwydrau'r Sais ar wastadedd Ffraingc. Adlewyrchid yr un teimladau yn llenyddiaeth Cymru. Tra yr oedd Cymry yn ymladd dan faner y Tywysog Iorwerth yn Ffraingc, yr oedd Dafydd ap