Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwilym yn canu ei gywyddau mwynion i'w gariad-ferch Morfydd, ond pan gododd Owen Glyndwr mewn gwrthryfel, cawn Iolo Goch yn ei ddaroganau yn gweled yr Hafren yn llawn o Saeson meirw, ac yntau yn

"Dramwyaw draw yn drais,
Yn droedsych ar fol drud Sais."

Yn ddiweddarach canfyddir yr un cyferbyniad ym marddoniaeth Dafydd ab Edmwnt a Guto'r Glyn, ac yng nghywyddau Dafydd Nanmor a Lewis Glyn Cothi.

Y mae yn bwysig iawn cofio fod Cymru rhwng 1284 a 1536 wedi ei rhannu yn ddwy wlad. Ffurfid Tywysogaeth Cymru o dair sir Gwynedd, Ceredigion ac Ystrad Tywi, a llywodraethid y rhain gan farnwyr a swyddwyr y brenin yng Nghaernarfon a Chaerfyrddin. Rhenid siroedd eraill Cymru yn diriogaethau bychain, pob un dan ei arglwydd ei hun. Nid oedd hawl, hyd yn oed gan y brenin, i ymyrryd a llywodraeth fewnol y tiriogaethau hyn. O fewn cylch ei arglwyddiaeth gwnai yr arglwydd y peth a fynnai; dedfrydai y diniwaid i farwolaeth, neu achubai einioes yr euog; nid oedd yn atebol i neb. Mae pob tyst yn cytuno fod ystad Cymru yn nechreu unfed ganrif ar bymtheg yn resynus i'r eithaf. Nid oedd bywyd neb yn ddiogel. Pe cyflawnid y llofruddiad mwyaf anfad cawsai y llofrudd noddfa ddiogel yn un o'r arglwyddiaethau bychain. Trigai haid o ladron digywilydd ym mynydd-dir Plynlumon, a llochesai haid arall yn nyffrynoedd Mawddwy. Rhuthrent i lawr i'r gwastadedd ar bob ochr, a difrodent yr holl wlad. Llofruddiwyd Barnwr