Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Brenin ar ei ffordd o'r Sesiwn yn Rhaiadr, gan fagad o wylliaid Arwystli.

Ond trown i gyfeiriad arall. Ganrifoedd cyn hyn yr oedd amryw o dywysogion ac arglwyddi Cymru wedi trosglwyddo tir i'r gwahanol urddau Eglwysig. Teimlai hen dywysog, feallai, ar ol oes o ymladd yn erbyn gelynion ei wlad, fod yn rhaid iddo wneyd iawn am ei weithrediadau pechadurus. Hwyrach fod esgob neu fynach wrth ei benelin, a chyn pen hir cyflwynwyd rhyw lanerch brydferth yng nghilfachau y mynyddoedd i ofal y Brodyr Du neu'r Brodyr Llwyd, tra rhedo dwfr. Mewn cymoedd neilltuedig a dyffrynoedd anghysbell, ar draws ac ar hyd Cymru, codasant hwythau, y mynachod diwyd, eu mynachlogydd a'u prior-dai prydferth. Ac oddi amgylch yr adeiladau, lle nid oedd o'r blaen ond eithin a grug a garwdir diffaith, wele erddi a gwinllanau a physgod-lynoedd hyfryd yn ymrithio i'r golwg. Yma y trigai aml i hen bererin o Gymro, ac yma yr ymneilltuai yn hwyrddydd bywyd lawer i hen fardd i alaru am ryddid Cymru, ac i broffwydo am waredwr nad oedd byth i ddod. Byddai y brodyr ieuainc yn trin y tir, a'r hen yn gofalu am y tlodion, ac hwyrach y codai o'u plith ambell i fardd neu lenor, i gadw yn ofalus hanes a thraddodiadau eu cenedl. Dichon eu bod yn ofergoelus, yn rhoddi cred mewn llawer chwedl ffol; eto iddynt hwy yn fwy na neb, rhaid diolch am gadw yspryd Cymru yn hoenus, a'i llenyddiaeth yn fyw trwy ganrifoedd o orthrwm a thywyllwch. Ond erbyn dechreu yr unfed ganrif ar bymtheg yr oedd yr yspryd yn