Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwanychu a'r corff yn llesghau, ac hwyrach fod llawer o ddiofalwch ac esgeulustra wedi llithro i mewn, a llawer o'r purdeb cynhenid wedi ei golli. Yn yr adeg hyn, pan yr oedd rhaib a gormes yn llywodraethu'r wlad, a phan yr oedd crefydd Cymru yn isel, daeth gwaredigaeth o Loegr.

Yn 1536, pasiwyd deddf Uniad Cymru a Lloegr. Gwnawd i ffwrdd a'r mân diriogaethau, rhanwyd Cymru yn siroedd, a rhoddwyd cynghor yn Llwydlo i lywodraethu'r wlad. Rowland Lee, Esgob o Sais oedd ben ar y Cynghor. Mewn naw mlynedd yr oedd y gŵr hwn wedi ysgubo Cymru yn làn. Dywed un hanesydd iddo grogi 5,000 o ladron ac yspeilwyr yn ystod chwe blynedd.

Tua'r un amser dadwaddolwyd a dadgorfforwyd y mynachlogydd, a dadseiliwyd llywodraeth y Pab yng Nghymru a Lloegr. Yng Nghymru, yn anffodus, nid oedd dim i gymeryd lle y grefydd Babaidd, yr oedd yr offeiriaid yn ddiog ac anwybodus, nid oedd un diwygiwr mewn golwg. Dilynai y Cymry eu hen arferion, er gwaethaf gorchymynnion y Brenin a'i esgobion, aent ar eu pererindodau i'r ffynnonau cysegredig, cynneuent ganwyllau o barch i'w seintiau, addolent eu delwau yn y dirgel, cadwent eu creiriau sanctaidd a chyfrifent eu paderau. Ychydig a fedrai ddarllen, a llai fyth a fedrai ysgrifennu. Yn y cyfwng yma, pan oedd addysg Cymru wedi diflannu, a'i chrefydd wedi dirywio, cawn ddau o wyr y gyfraith yn unig ar ddihun. Syr John Prys a