Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

William Salesbury gynneuodd y goleu sydd wedi dwyn y Cymry o'r tywyllwch i sefyll yn y rheng flaenaf o bobl ddiwylliedig y byd.

Yn y Llyvyr Hwnn.

Llyfr i'r werin yn bennaf oedd llyfr Syr John Prys. Gofal cyntaf yr awdwr oedd rhoi cyfarwyddiadau i ddarllen yr iaith. Ymgeisiodd hefyd at wneuthur trefn ar ei llythreniaeth, a phe bai William Salesbury wedi dilyn Prys yn y mater hwn, hwyrach y byddai iaith pwlpud a gwasg Cymru dipyn yn fwy cydweddol a'r iaith lafaredig. Wedi'r traethawd ar lythreniaeth daw'r Calendyr. Y mae hwn yn neilltuol o ddyddorol, gan ei fod yn cofnodi dyddiau gwyl cynnifer o seintiau Cymru.[1] Ar waelod pob tudalen ceir cyfarwyddiadau i'r amaethwr pa fodd i drin ei dir, a gofalu am ei ardd, a chredwn fod Syr John yn wr o brofiad pan yn sôn am y pynciau hyn. Wedi'r Calendyr daw'r Gredo, y Pader, yr Ave Maria, a'r Deg Gorchymyn.

Hyd yma y mae'r llyfr yn dilyn yr un drefn a'r llyfrau Plygain Seisneg argraffwyd tua'r un adeg. Geilw rhai ef yn "Primer" am y rheswm yma. Ond, a siarad yn fanwl, nid yw yn Brimer, gan mai math o lawlyfr at wasanaeth teuluaidd oedd hwnnw, ac yr oedd ynddo liaws o weddiau boreuol a hwyrol, ac hefyd emyn neu ddau. Cyhoeddwyd o leiaf dri argraffiad o'r Llyfr Plygain yng Nghymru cyn 1640; un yn 1618, un arall yn 1633, ac un rhwng y ddau ddyddiad yma. Y mae y rhan olaf o'r llyfr

yn cynnwys rhestr o'r saith pechod marwol wedi eu

  1. Gwel llyfryn y Parch. John Fisher, The Welsh Calendar.'