Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dosrannu yn wahanol benau. Hwyrach fod Syr John wedi codi sylwedd hwn oddiwrth un o'r traethodau crefyddol oedd mor gyffredin yn y canol oesoedd. Os cymherir ef a'r traethawd "Py Delw y dyly Dyn credv y Duw" a argraffwyd gan y Proff. J. Morris Jones yn Llyfr yr Ancr (tud. 141-3), gwelir fod cryn debygolrwydd rhyngddynt. Fel rheol, arferir yr un geiriau í ddynodi y pechodau a'u ceingiau,' chwedl Syr John. Cyfaddasiad, mwy na thebyg, yw y rhan olaf o'r llyfr o ryw ysgriflyfr Cymraeg.

Mae llawer o wallau argraffyddol yn y llyfr, ond ein dyledswydd ni oedd dilyn y gwreiddiol er mwyn i'r adargraffiad fod mor debyg iddo ag oedd yn ddichonadwy. Lle methwyd gwneuthur hyn, rhoddir rhifnod uwchben y gair er mwyn dangos y gwall. Er esiampl, dynoda y rhifnodau 1, 9, 10-20, 22-25, 38-9, 40-6, fod accen ar y llafariaid yn y geiriau hyn; rhifnodau 2-8, 21, 26, 47, fod y llythyren 'It' ar goll, a rhifnodau 27-37, 48, 49, fod to wedi ei argraffu yn lle. Y mae'r awdwr ei hun yn syrthio i'r gwall olaf yn fynych.

Ai hwn oedd y llyfr cyntaf yn yr iaith.

Er ein bod yn credu mai hwn oedd y llyfr cyntaf argraffwyd yn yr iaith Gymraeg, eto nid oes sicrwydd am hyn. Nid oes dyddiad

wrth "Oll Synnwyr Pen Kembero." Argraffwyd ef gan Nycholas Hyll, a gwyddom ei fod ef yn argraffu llyfrau rhwng 1546 a 1554.[1] Y mae

  1. Arber's Stationers' Registers, vol. v. xciv; Catalogue, British Museum; Ames' Typographical Antiquities, vol. iv., p. 230-6.