Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfeiriad yn y rhagymadrodd at waith John Heywood yn cyhoeddi ei gasgliad o Ddiarhebion Saesoneg. Daeth y llyfr hwnnw allan yn 1546, medd Lowndes, ac felly ysgrifenwyd y rhagymadrodd gan Salesbury yn, neu wedi y flwyddyn honno. Cyfeiria Salesbury hefyd at Polydore Vergil fel "un o'r dyscedickaf heddy o wyr llen Lloecr," a chasglwn oddiwrth hyn fod Polydore ar dir y byw. Bu ef farw yn 1555. Dywed Salesbury ymhellach, "Pererindotwch yn droednoeth at ras y Brenhin ae Gyncor y ddeisyf cael cennat y cael yr yscrythur lan yn ych iaith." Bu Iorwerth VI. farw yn 1554. Felly y mae'n lled glir fod y llyfr wedi ei argraffu rhwng 1546 a 1554. Cyhoeddodd William Salesbury ei Eiriadur Cymraeg a Saesneg yn 1547, a llyfrau eraill yn 1550 a 1551, a'r casgliad naturiol yw mae tua'r un amser yr argraffwyd "Oll Synnwyr Pen Kembero." Os felly llyfr Syr John Prys oedd y cyntaf argraffwyd yn yr iaith.

Hanes bywyd Syr John Prys

Mab oedd Syr John Prys i Rhys ab Gwilym Gwyn o Frycheiniog a Gwenllian ei wraig. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1502.[1] Yn ol Harl. MS. 1976, f.37, yr oedd yn deillio yn unionsyth o Einion Sais. Priododd Syr John un Joan, neu Johane, merch John Williams o Southwark, Llundain, a nith (merch chwaer) i Elisabeth, gwraig Thomas Cromwell. Dywed rhai fod John Williams yn nai i Forgan Williams o Lanishen, un o henafiaid Oliver Cromwell, ond haera eraill mai brawd Morgan Williams ydoedd.

  1. Cambrian Journal, Mawrth, 1857, tud. 40.