Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pryse, John, supplicated for B.C.L. 21 May, 1519, adm. 29 Feb. 1524, supplicated for B. Can. L. March, 1530/1 Fellow of All Souls, 1523.

Ynglyn a'r gwr hwn y mae Anthony à Wood yn gwneyd y sylw canlynol : “ Farther also I find that in 1523, one John Price of All Souls College was admitted Bach. of Civil Law , and that he died 1554."

Tueddwn i gredu mai dyma'r gwr a ddaeth wedi hynny yn Syr John Prys. Nis gwyddom beth oedd awdurdod Wood dros ddweyd mai yn 1554 y bu farw , ond y mae'r dyddiad yn lled agos i'w le, oblegid bu Syr John farw yn 1555. Os yw'r eglurhad yma yn gywir, y mae yn symud cryn dipyn o anhawsder o'n ffordd. Hwyrach fod Syr John ar ol ymadael a Rhydychen wedi ymaelodi yn un o'r Inns of Court, a rhyw fodd neu gilydd wedi dyfod i adnabyddiaeth o Thomas Cromwell. Y mae'n amlwg fod Prys mewn cysylltiad lled agos a Cromwell yn y flwyddyn 1534 (os nad ynghynt), gan fod cyfeiriad ato mewn llythyr ysgrifenwyd at Cromwell fel "Your servant, John ap Rys." O'r adeg hynny ymlaen gallwn ddilyn ei gamrau yn lled fanwl. Bu yn ddyfal yn ystod 1534 a 1535 yn gwneuthur ymchwil dros y Brenin drwy fynachlogydd Lloegr. Yn Rhagfyr, 1534, gwnawd ef yn Gofrestrydd Côr Salesbury, ac yn 1536 bu yn gwneyd ymholiadau dros y Brenin yn Siroedd Lincoln a Norfolk. Ymhlith papurau y State Paper Office, ceir petisiwn oddi wrth Prys at Thomas Cromwell a ysgrifenwyd tua'r adeg hon, a chan fod yr ysgrif yn