yn y State Papers,' cyf. iv., tud. 2943. Enwir ef a Wm. Brabazon, un o weision Cromwell. Casglwn felly fod John Prys yng ngwasanaeth Cromwell mor foreu a Gorffenaf, 1530. Dywedir, ar awdurdod Wood yn y bywgraffiadau sydd wedi ymddangos o dro i dro, fod Price yn aelod o Broadgates Hall yn Rhydychen, ac iddo gymeryd ei radd yn y Brifysgol yn y flwyddyn 1534. Yng nghofrestr y Brifysgol ceir y cofnod hyn:
Price or Pryce, John, supplicated for B.C.L. and dispensed July, 1534, adm. 12 July. Supplicated for B. Can. L. June, 1535, of Broadgates Hall.[1]
Hwn yn ddiau yw'r gwr y mae Wood yn cyfeirio ato, ond y mae yn anhawdd credu, fod Syr John Prys yn fyfyriwr yn Rhydychen tua 1534, oherwydd yr ydym yn gwybod fod Syr John tua'r adeg hyn yn tramwyo'r wlad i archwilio'r mynachlogydd, ac yn Mehefin, 1535, tra yr oedd y John Price uchod yn derbyn ei radd o B. Can. L. yn Rhydychen, yr oedd Syr John Prys yn brysur yn casglu tystiolaeth yn erbyn John Fisher, Esgob Rochester.[2] Y mae traddodiad fod William Salesbury, cyfieithydd y Testament Newydd, hefyd yn aelod o Broadgates Hall, ond nid yw ei enw ar gofrestr y Brifysgol. (History of Pembroke College'). Ond y mae cofnod boreuach ar gofrestr y Brifysgol sydd yn rhedeg fel hyn: