Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

King's highness memory. And he now desires but £50 that is not in the King's hands and to bring to his Grace therefor £200 a year besides moveables worth £400 or £500.

Gwelwn fod Prys wedi bod yn ddiwyd yng ngwasanaeth y Brenin, ac wedi dod i gysylltiad pur agos ag ef ar fwy nag un achlysur.

Ym mis Gorffennaf, 1540, cawn ef yn cymeryd rhan yn y gweithrediadau ynglyn ag ysgariad Anne of Cleves a Harri'r Wythfed, ac yn y mis Medi canlynol etholwyd ef yn ysgrifenydd dros y Brenin yng Nghymru. Cwympodd allan ag un Charles Fox ynghylch y swydd hon, a gwysiwyd y ddau o flaen y Privy Council, gyda'r canlyniad i Prys gael ei wneyd yn ysgrifenydd i Gyngor Cymru a'r Gororau.

Nid ydym yn credu fod digon o brofion mai yr un gwr oedd efe a'r John ap Rece fu yn Gwnstabl yng Nghastell Clun, o dan Iarll Arundel.[1] Yr oedd Prys erbyn hyn wedi casglu llawer iawn o gyfoeth, a chawn ef o hyn allan yn byw yn ei dy yn Henffordd, fel gwr bonheddig a pherchen tir. Gwnaed ef yn farchog ar yr 22ain o Chwefror, 1546-7. Bu yn Uchel Sirydd dros Sir Frycheiniog yn 1543, a thros Sir Henffordd yn 1554, yn Aelod Seneddol dros Henffordd yn 1553, a thros Llwydlo yn 1554. Yn 1551, etholwyd ef yn aelod o Lys y Gororau (The Court of the Council of Wales and

the Marches), a daliodd y swydd hyd ei farwolaeth.

  1. Gwel Dict. National Biography, dan enw Prys a S. P. Dom. Henry VIII., cyf. ix. tud. 91, xiii. 289, xvi. 6.