Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

teg i gofnodi fod y Tad Gasquet, a gydnabyddir fel un o brif haneswyr y Pabyddion, yn dal y syniadau hyn.

Barn arall am dano.

Fel tâl am ei wasanaeth i'r Brenin, derbyniodd Prys lawer o dir y mynachlogydd. Yn hyn o beth nid oedd yn eithriad i eraill o wyr y Llys, ac nid oes angen condemnio Prys am nad oedd ei foesoldeb o radd llawer uwch na'r eiddo ei gyfoedion. Gwyddom hefyd iddo gael rhyw gymaint o ddodrefn y mynachlogydd, a hwyrach iddo fachu aml i hen lyfr prin a gwerthfawr. Y mae ei ewyllys yn taflu peth goleu ar hyn:

Item. I will that my executors shall deliver and distribute to churches within the countie of Hereford all such churche apparell as I had within this countie if any remaine in my house.

Item. To the Cathedrall Church of Hereforde to be set in their library all my written bookes of Divinitee.

Gwelwn felly fod Prys wedi dychwelyd peth o'r yspail, a hwyrach fod rhai o'r llyfrau eto ar gadw yn llyfrgell Eglwys Gadeiriol Henffordd. Gwaith anhawdd iawn hyd yn oed i gydoeswyr yw ffurfio syniad cywir am gymeriad, natur, a chyneddfau dyn. Anhawddach fyth yw ceisio pwyso rhagoriaethau a diffygion gwr sydd yn y bedd er's blynyddau maith. Gedy ambell i wr ei ôl ymhob llythyr a ysgrifenna ac ymhob gweithred a wna, un arall a ysgrifenna lawer heb ddadguddio i neb gyfrinach ei fywyd. Ychydig iawn a wyddom am Syr John Prys. Casglwn oddiwrth gyfeiriadau yma a thraw yn y State Papers fod y rhai oedd yn cydweithio ag ef yn rhoddi gair