Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Martin curat of Parshor aforesaide dothe knowe where the stone remaineth.

Nis gallwn ddweyd a wnaed yn ol ei ddymuniad ai peidio. Nid oes son am ei feddfaen yn yr Eglwys Gadeiriol. (Dun- combe's Herefordshire; Rawlinson's Hereford Cathedral). Gan iddo farw o fewn ychydig ddiwrnodau ar ol gwneyd ei ewyllys, tybiwn yn sicr i hynny ddigwydd yn ei dy yn Henffordd.

Barn Gasquet am Syr John.

Fath ddyn oedd John Prys? Mae'r hanesydd Pabyddol, y Tad Gasquet, yn ei lyfr ar "Henry VIII, and the English Monasteries," yn rhoddi cymeriad annymunol iawn iddo. Fel y dywedwyd eisoes, bu Prys yn un o'r dirprwywyr a ddanfonwyd gan y Brenin chwilio cyflwr mynachlogydd y deyrnas. Wrth wneyd hyn yr oedd yn anhawdd iddo beidio aflonyddu llawer ar y mynachod a'r lleianod, yn eu cartrefi clyd. Os caniateir fod y neges yn un atcas, nid yw o angenrheidrwydd yn dilyn fod y negesydd yntau yn ddihiryn; os bu raid i John Prys gydweithio a dynion digrefydd a diegwyddor, nid yw hynny yn brawf yn y byd fod John Prys yn bagan ac yn dwyllwr. Ond tyn y Tad Gasquet ddarlun gwrthun o hono. Y mae yn wr digymeriad, yn hyrwyddo pob drygioni, yn euog ei hun o droseddau anfad ac yn was a chynffonwr i'r arch-heretic Thomas Cromwell. Nid oes gennym le i ddadrys y cyhuddiadau hyn, ond y mae yn amlwg fod yr hanesydd yn gadael i'w deimlad lywodraethu ei farn wrth sôn am Prys. Ar yr un pryd nid yw ond