Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwneuthur rhyw drefn ar lywodraeth y wlad, a'r ail oedd ei haddysgu. Bu am bymtheng mlynedd yn cymeryd rhan flaenllaw yn llywodraethiad Cymru, ac nis gallasai Cymro mor wladgar a chyfreithwr mor ddysgedig lai na gadael ei ol ar drefn a dull y llysoedd barn. Yn sicr, cawsai pob Cymro a ymddangosai o flaen y llys yn Llwydlo chwareu teg tra yr oedd Syr John Prys yn aelod o hono. O fewn pedair blynedd wedi ei benodiad yn glerc i'r Cynghor, cyhoeddodd ei lyfr Cymraeg. Amcan y llyfr, fel y dywedasom o'r blaen, oedd dysgu'r Cymry uniaith i ddarllen y Gymraeg ac i'w hyfforddi yn rhai o egwyddorion y grefydd Gristionogol. Y mae yn beth hynod iawn mai dyn o safle Syr John Prys gyhoeddodd y llyfr cyntaf yn yr iaith Gymraeg. Nid ydym yn credu fod yr un marchog, neu wr o safle gymdeithasol gyffelyb wedi ysgrifennu a chyhoeddi llyfr yn yr iaith ar ol ei amser ef. Dengys hyn mor werinol yw llenyddiaeth Cymru. Fel y dywed ef ei hun yr oedd periglorion Cymru "y sy yny mysk oswaethhiroedd y nailh ae nys medran, ae nys mynnan ddangos yw plwyvogyon y petheu y maen yn rhwymedic y lhailh yw dangos ar lhalh eu gwybod."

Offeiriaid dioglyd.

Pan oedd offeiriaid Cymru yn rhy anfedrus neu yn rhy ddioglyd i ddysgu eu plwyfogion, cyfreithwr prysur yn unig oedd ar ddihun. Deallodd ef, fel Griffith Jones, Llanddowror, ddwy ganrif yn ddiweddarach, fod yn rhaid dysgu'r bobl i ddarllen, ac argraffu llyfrau at yr amcan hyn cyn y deffroa