Syr John yn Gymro i'r carn.
Dengys y rhagymadrodd i'r llyfr a ail-argraffir yma fod Syr John Prys yn Gymro gwladgarol, ac yn teimlo yn ddyledswydd arno i wneuthur yr hyn a allai i hyfforddi'r Cymry yn egwyddorion crefydd.
Ac er bod y gofal mwya yn perthyn yr periglorion, eto ni bydd neb dibwl, ac y rhoes Duw ddonyeu neu gyfarwyddyd yddaw, ny wnelo y peth y alho er hysbyssu yddy gydgristion y pynkeu y sy mor anhepkor ar rhain.
Yn wyllt ei dymher.
Hwyrach ein bod bellach mewn cyfle i ffurfio rhyw syniad fath ddyn oedd John Prys.
Dengys yr ymdrafodaeth rhyngddo a Fox ei fod yn wyllt ei dymher; ond os na allai lywodraethu ei natur, byddai yn edifarhau yn fuan. Pan gyda Dr. Lee ar ei ymweliad a'r mynachlogydd methasant a chytuno ac mewn canlyniad ysgrifennodd Prys lythyr chwerw iawn at Cromwell i achwyn ar ei gyd-swyddog ffroen-falch. Ond y diwrnod nesaf ysgrifennodd lythyr arall i dynnu ei eiriau yn ol.[1] Dyn hawdd ei gyffroi, a hawdd ei dawelu ydoedd.
Yn gyfreithiwr ac yn ddyn ymarferol.
Yr oedd yn ddyn ymarferol.[2] Hwyrach fod ei ddygiad i fyny fel cyfreithwr yn ddigon o reswm am hyn. Gwelodd yn eglur fod dau
angenrhaid yng Nghymru; y cyntaf oedd