Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aue Maria.

HAmpych gwelh vair kyflawn o rad, mae Duw gyt a thi. Bendigaid wyd ymplith y gwrageð, a bendigedic yw ffrwyth dy groth di.

Amen.


Krist y ðywad val hyn.

PA beth bynnac y geisioch chwi gan vyn had yn vy enw i ef ae rhyð ywch. Meðylia ymma yr darlheawdyr glan, pan geisio gwr y nailh ay petheu anvad, ay petheu y vai ðrwc ar y les ehun, nad yn enw krist y mae yn dei­sif yno, keisiwch yn gyntaf deyrnas ðuw, ae gy­fiawnder ef, ar hynn ygyt ac y vo da er ych lhes y gwplair ywch.


Y deng air deðyf, ney yr dec gor­chymmyn Duw.

NA vid yt vn geuduw, rhac vy wyneb i.
Na wna yt ðelw gervedic, na lhyn dim ar y syð yny nefoeð o uchel, nac yn y ðayar o issel, nac yn y dyfwr is law yr ðayar: na orestwng yðynt, nac anrhydeða hwy.
Na chymmer enw dy arglwyð ðuw yn over.
Koffa santeiðo dy ðyð sul.
Anrhydeða dy dad ath vam.
Na Lað neb.
Na wna oðineb.
Na ðwc gam dystoliaeth yn erbyn dy gymmo­dawg.
Na whennycha dy dy gymmodawc, nae wraig. nae was mae vorwyn, nae ych, nae assen, na dim ac y vo eiðaw.