Krist a roes yn ni ðeu orchymmyn er kyflawny yr holh degair uchod.
KAr dy arglwyð ðuw oth holh gallon, oth holh enaid, oth holh nerth, ac oth holh veðwl A char dy gyfnessaf yn gymemt a thi dyhun.
Y gwydyeu gochladwy. Y saith pechod marwol
Syberwyd neu valcheð.
Kenvigen, ney gyghorvynt.
Digasseð, neu irlhoneð.
Lhesgeð neu ðiogi.
Aggawrdeb ney gebyðiaeth.
Glythineb.
Godineb, ney aniweirdeb.
Y kampeu arveradwy. Kampeu da gwrthwyneb yr gwydieu vchod.
Vfyðdawt.
Kariat.
Anmyneð.
Ehudrwyð.
Haelioni.
Kymedrolder.
Diweirdeb.
Keingyeu syberwyt. xvi.
Ymvychaw. Yw na oðefer neb yn gyfuwch nac yn gyfrad.
Bocsachu. Kymeryd o wr vod eiðaw y peth nyd ydiw.
Ymdrychauael. Ymrhagori ehun gan dremygu erailh.
Anostwng. Ny ðarestwng y welh neu bennach noc ef.
Drudannaeth. hirdrigyat meðwl ar y drwc.
Ymchwyðaw. ymwrthlað yn tremygus yn erbyn awdurdot henafyon.
Kynhennu. Bloeðgar gynghewseð yn erbyn gwirioneð.
Anoðef. Gwylhtineb meðwl heb y ffrwyno.
Anuvyðdawt. Anostwng y vchafion ae gorchymynneu.