Digasseð, yw anuynnu lhes neu damwein da y aralh.
Anghyweirdeb, yw aniolwch y aralh y da.
Kas chwerwder, yw gwenwynuar diffeith vedwl dirann o leweryð.
Anundeb, yw kassau aralh, hyt na mynner bod yn vn ac ef.
Gwatwar, yw kelhweirus digryswch, y dremygu aralh.
Kuhuðaw, yw menegi drwg ar aralh gerbronn brawdwr wrth, Y golhedu.
Kas yw angharu aralh drwy rhybychaw drwg idaw.
Keingyeu digasseð.
Cas, val y dywetpwyd vchod.
Anundeb, yw ymwahanu or rhai a notteint ymgaru.
Kynhen, yw sarhaed ar eireu megys ymchwyrny.
Ymwychyaw. yw ymsarhau drwy ar eireu rhoddigyon.
Anoðef, yw anwaharð tervyscus wylhtineb meðl heb y dovi.
Ymserthu. yw ymdorri drwy ðeisyuyd gyffro meðwl mewn geireu serthyon.
Mawrðrygeð. yw dichelhus ystriw y golhedu aralh.
Dryc ewylhus. yw rhybuchaw drwg y aralh, kynn nys galher ar weithred.
Kyndareð. yw colhi synwyr o dra lhid.
Tervysc. lhithredic gnawdoliaeth a ðel o vrenuolyath medwl.
Dryc anian, yw arðangos ar wyneb chwerwder meðwl.