Lhovruðiaeth. a wnair drwy weithred, megys pan laðo ðyn aralh. yn weithredawl.
Keingieu lhesgeð. ix.
Ergryn, yw ovynhau dechreu gwneythur da.
Mevyt. yw blinder wrth orffēnu da dechreuedig.
Lheturyt, yw ovynhau dechreu peth mawr aðwyn.
Gwelhyc, yw gwalh am wneythur y peth rhwymedic.
Ambruðder, yw na racweler am y pethen a ðelont rac lhaw.
Angkalhder, yw gochel rhyw bechod, yny syrthier yn aralh.
Trymlvowrwyð. lhesgu gorffennu y peth rhwymedic y ðiweðu.
Anwybot, yw na roðo gwr y weithred y gwplau yr vn vath beth.
Gorwagrwyð, yw parablu segurion eiryeu yn orwag.
Keingyeu Aghawrdeb neu gebyðiaeth. xv.
SYmoniaeth, yw prynu neu werthu peth ysprydawl.
Vsur, yw kymryd mwy no dleyed, drwy werthu yr amser.
Lhedrad, yw kymryd da aralh heb wybod yr perchennawg.
Herwryaeth, yw kribðeilaw da aralh yn ðirgel.
Anudon, yw kadarhau kelwyð drwy lw.
Kelwyð, yw dywedyd ffalsteð, drwy ynni twylhaw aralh.
Treis, yw yspeilo arall oy ðað yn anghyvarchus.
Anghyvarch, yw kymhelh aralh y wneythur y peth nys dleye.