Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

at ei gilydd i adrodd eu hysgarmesau ym myd ofergoeliaeth. Felly yr ydoedd hi yn nyddiau'r Gwaredwr nes dwyn ohono Ef y Presenoldeb yn ôl i fywydau a meddyliau'r bobl. Felly yr ydoedd hi yn yr ardaloedd hyn, hyd oni ddarfu i Edward Richard agor deall y bobl i ddylanwadau addysg, a Daniel Rowland eu calonnau i ddylanwadau crefydd, gyda'r canlyniad i adar y nos ffoi rhag y newyddion gwell. Dwy ganrif o ofergoeliaeth oeddynt hwy, ac ysbrydion aflan wedi meddiannu'r wlad mor drylwyr nes bod ysbryd ymhob llwyn a bwci dan bob coeden, Ymhell yn y deffroad yr oedd y dincod ar ddannedd y plant o achos i'r tadau fwyta grawnwin surion, ac nid yw'r dincod hyd y dydd heddiw wedi llwyr wella.

Gwaith mawr Edward Richard oedd dechrau'r gwaith o lanhau'r meddwl i fod yn drigle ysbrydion gwell. A gwaith mawr Daniel Rowland oedd glanhau'r galon i'r Presenoldeb. Huawdl a thanllyd ei ysbryd oedd y deffrowr o Langeitho, ond yn fyr o weledigaeth. Dyrchafu'r pulpud a wnaeth ef ar draul darostwng yr allor. Mynnodd gadw'r gyffesfa o dan yr enw o seiat, a moddion paratoad oeddynt hwy ar gyfer yr allor. Efallai nad ei fai ef yn gyfangwbl oedd hyn. Nid ar unwaith, y mae'n wir, y darostyngwyd safle'r allor ym mywyd y wlad, ond yn raddol ac o fesur tipyn; ac nid oedd neb â gweledigaeth eglur. O ymbalfalu yn y tywyllwch ysgarwyd rhwng y pulpud a'r allor, y ddau allu mwyaf ar fywyd dyn, y pulpud i ddeffro, a'r allor i santeiddio. Gwir yw i Daniel Rowland ddwyn y Presenoldeb yn ôl i galonnau unigolion, ac iddo fyw a marw yn y gobaith, yn ôl ei gyngor i Nathaniel ei fab, y deuai'r Presenoldeb yn ôl i'r allor y sydd bob amser yn santeiddio'r rhodd.

Yr ymwybyddiaeth o'r Presenoldeb ar yr Allor ac yn y galon yw'r unig allu i gadw calon bur, a'r pur o galon a wêl. Dduw.