Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

droi'u golygon i gyfeiriad y Tŷ. Y mae'r hen bŵerau yn aros hyd y dydd heddiw yn yr hen greiriau a glywir yn aml yn y rhybuddion i 'ymswyno' ac 'ymgroesi', a thynnu croes ar y toes cyn ei roddi yn y popty, neu dynnu'r arwydd cyn bwyta. "Y mae'r wlad wedi mynd yn ddi-weddi iawn", meddai mam yr Esgob Morgan wrth weld mwsogl yng ngherrig y croesau ar ffriddoedd Machno a'r Fedw Deg.

O golli'r Presenoldeb oddi ar yr hen allorau fe agorwyd y llifddorau i ofergoeliaeth lifo dros y wlad fel y gwnaeth y môr dros feysydd teg Cantre'r Gwaelod.

"Fe ddaw dial", dolefai'r mynachod crwydr wrth awelon y bannau. Na ddaw, ac ni ddaeth. Nid Duw'r dial yw Duw hanes, ond Duw sy'n dwyn da o ddrwg, a throi'r groes yn orsedd gweddi.

Mudiad i ddyrchafu cymdeithas a'i phuro oedd y mudiad Sistersaidd ar y dechrau, a'r Babaeth a ledodd ei hadain drosto hynny a fu ei nerth a'i doethineb, ac a ohiriodd awr ei hymweliad am rai canrifoedd.

O'r pryd y diffoddodd y tân ar allorau yr hen fynachlog hyd y pryd y torrodd tân y deffroad allan yn hen eglwys Llangeithio, y mae tua dau can mlynedd. Nid ydym i gasglu oddi wrth hyn fod tân allorau yn hen eglwysi plwyf wedi diffodd. Na, yr oedd y tân yn parhau i losgi arnynt hwy, ond ei fod yn llosgi'n isel. Ni allai lai na bod felly pan gofir dylanwad mawr yr hen fynachlog. Fflam a ddiffoddodd oedd yr hen fynachlogydd, ond tân araf ac yn llosgi'n isel, ac yn isel iawn weithiau, oedd y tân a losgai ar allorau'r hen eglwysi plwy'. Amdanynt hwy y gellir dywedyd,—

Men may come and men may go,
But I go on for ever.

Rhwng dymchweliad yr hen fynachlog yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r deffroad yn y ddeunawfed ganrif ar ei ochr addysgol yn Ystrad Meurig a'i ochr grefyddol yn Llangeitho, y mae dau can mlynedd. Effaith y dymchweliad oedd colli'r Presenoldeb. Yr oedd clychau'r Plygain a'r Gosber a'r Angelus, a gludai'r syniad o'r Presenoldeb, wedi distewi, ac yn y cyfwng gwag gyfleusterau i ysbrydion aflan ddyfod i A hwn ydoedd eu dydd hwy, ac fe ymdyrrai'r trigolion