Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hanes am gychwyniad y mudiad Sistersaidd, a ymledodd dros holl wledydd Ewrop gyda chyflymder syfrdanol, ac i Gymru—i Tintern, Nedd, Cymer, Cwm Hir, Aberconwy, ac Ystrad Fflur, a mannau eraill. A'r stori yw i ddau frawd, o deulu urddasol Molesme yn Ffrainc, ddadlennu i'w gilydd y cymhellion a ddaeth atynt i ladd y naill a'r llall ar ei ffordd i dwrnamaint. A phenderfynasant ymneilltuo o fyd mor ddrwg ei feddyliau i fyw bywyd neilltuedig a santaidd, a sefydlasant fynachlog syml a diaddurn yn Citeaux, a ddaeth yn gyrchfan boblogaidd i ddynion o gyffelyb dueddiadau. Bu cynnydd y mudiad yn aruthr o dan ddylanwad y pendefig ieuanc, Bernard, huawdl ei barabl, a thanllyd ei ysbryd yn erbyn tuedd yr oes. Dyma'r dylanwad oedd o'r tu ôl i fynachlog Ystrad Fflur, a sefydlwyd gan y tywysog Rhys ap Gruffydd yn 1164. A chadwodd ei ddelfryd o frawdgarwch a santeiddrwydd i losgi yng ngwres y Presenoldeb Dwyfol ar ei hallorau yn sŵn a sain yr "oriau". Nid tŷ ydoedd hwn a godwyd i gynnwys cynulleidfa, ond i gadw'r Presenoldeb i gymell elusen, gweddi, ac ympryd. Ei noddydd oedd y Wyryf Fair, y dyneraf a'r buraf o famau, a'r mynachod a ymwisgai yn eu gynau gwynion o barch i'w phurdeb. Iddynt ddirywio yng nghwrs amser sydd ddigon posibl, ond nid i'r graddau ag i ddinistrio'r da yn ogystal â'r drwg. Oedd, yr oedd yno rai cyfiawn, hyd yn oed yn yr amser gwaethaf o'i hanes. Eithr tua'r flwyddyn 1536 fe'i dymchwelwyd garreg ar garreg, a maen ar faen, a gwasgarwyd ei phlant ar hyd y bannau a'r ffriddoedd i ddolefain, "Daw, fe ddaw dial".

Ond nid un i ddial yw Rhagluniaeth, mwy na natur ac amser, ond i rwymo a gwella doluriau. Eithr y mae'n rhaid i Ragluniaeth wrth amser i ddwyn trefn o anhrefn, a gwneuthur i ddichellion dyn i'w moliannu.

Nid yng ngholli'r eiddo yr oedd y golled, ond yng ngholli'r Presenoldeb. Nid oedd colli'r eiddo'n ddim o'i gymharu â cholli'r Presenoldeb o allorau'r abaty. Distawodd sŵn y gloch a arferai gyhoeddi'r awr weddi i bell ac agos, ac fe syrthiodd mudandod rhyfedd ar y wlad.

Yr oedd y Presenoldeb wedi cilio, ac 'Ichabod' yn llythrennau tanllyd a gwgus yn crogi uwch ben y lle. Anodd disgrifio teimlad y werin bobl pan ddistawodd hyfryd sain y gloch yn eu galw hwyr, a bore, hanner dydd, i gofio'r awr weddi ac i blygu'u pen, neu