Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XIX

TRO YNG NGHEREDIGION (2)

ARAFAI'R trên i orsaf Strata Florida un prynhawngwaith tesog o haf, a disgynnais ohono i'r orsaf brydferth ei henw, ac i fwy nag un cyfnod o hanes y fro, a hanes Cymru hefyd, a chip ar hanes Ewrop. Draw yn llechu yng nghesail y mynyddoedd yr oedd adfeilion mynachlog Ystrad Fflur, y galwyd yr orsaf ar ei henw. Symudwyd y fynachlog yn bur gynnar yn ei hanes o lannau blodeuog Fflur i lannau Teifi furmurol. Ac yno yr erys yn ei hadfeilion ar ôl dros bedwar cant o flynyddoedd. Yn nes atom y mae ysgol enwog Ystrad Meurig, y bu iddi restr hir o brif athrawon a roes fri ac anrhydedd ar eu gwlad, ac a rydd ei chymwynasau hyd y dydd heddiw. Ac nid yw Llangeitho'n nepell—crud deffroad crefyddol y ddeunawfed ganrif.

Yr hen fynachlog odidog, fe wasanaethodd y fro yn dda am gyfnod hir, hyd oni chlwyfwyd hi gan yr Wythfed Harri, ac y mae'n wir urddasol o dan ei chlwyfau heddiw. Gwnaed hi yn gydwastad â'r llawr, a gwasgarwyd ei phreswylwyr. Ond y mae natur ac amser fyth yn garedig, ac nid oes neb fel hwynt-hwy am wella briw a chuddio craith. Y mae glannau Fflur yn flodeuog fel cynt, a Theifi'n murmur ar ei thaith heibio i'r adfeilion a draetha'n huawdl fawredd cynt y fynachlog. Bu i'r fynachlog ei dydd, a hwnnw'n ddydd hir, a chyflawnodd waith y bydd cofio amdano, ac nid yw ei dylanwad wedi darfod eto, ac ni dderfydd tra fo'r tai, a'r tiroedd, a'r pentrefi o amgylch yn glynu wrth eu hen enwau. Yn ymyl y mae Pontrhydfendigaid, a thipyn ym mhellach Ysbytai Ystrad Meurig, Ystwyth, a Chynfyn, a'r Capeli Croes, yn Swyddffynnon a'r Berth a Broncapel, at anghenion ysbrydol Bronant a Rhos-y-wlad, a'r mynachdai hen a newydd. Heddiw enwau ydynt hwy, ond enwau ag arogl y dyddiau gynt yn drwch arnynt. I werthfawrogi ei chenadwri y mae'n rhaid bwrw golwg dros gefndir ei hanes, na ellir ei weld yn gliriach nag yn yr