Gwirwyd y dudalen hon
nhaith, a phan edrychais yn ôl o ben fy siwrnai yr oedd yr holl fro wedi ei gorchuddio â brodwaith cywreiniach nag a wisgodd Solomon am ddyweddi ei gân. Bron na allwn benlinio mewn edmygedd o'r olygfa arddunol. Drannoeth yr oeddwn innau yn dilyn yr haul tua'r Gorllewin ond fy mod i ar y pryd yn cael fy nghludo'n gyflymach. Cefais fwy nag a fargeiniais. Yn yr hwyr yr oeddwn yn fy ngardd yn edrych ar y blodau ac yn dyfrhau'r sychedig.